Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi ymgynghoriad tair wythnos ar gynigion arwyddocaol ar gyfer canol tref Llangollen.
Crëwyd cynllun Gwella Heol y Castell Llangollen 2020 gyda chyfraniad gan y gymuned ac mae’n bwriadu gwella Heol y Castell a rhai strydoedd cyfagos yn Llangollen.
Bwriad y cynigion yw gwella’r parth cyhoeddus ar hyd Heol y Castell trwy osod palmentydd a phafin troedffordd newydd gyda deunyddiau o ansawdd uchel.
Bydd hefyd yn dileu parcio ar y stryd ar Heol y Castell ac ar gyffordd Ffordd yr Abaty/Heol y Castell er mwyn lledu’r palmentydd a gostwng tagfeydd parcio ar Heol y Castell.
Mae cynigion eraill yn cynnwys cyflwyno nifer o balmentydd is i gerddwyr ar hyd Heol y Castell ac i leihau cyflymder traffig trwy godi wyneb y ffordd ar rai cyffyrdd ffyrdd ymyl yn ogystal â darparu dau fae llwytho i fusnesau ar Heol y Castell, ynghyd â dau fan parcio i bobl anabl ger Heol y Castell.
Cynigir hefyd wneud Heol y Farchnad yn un unffordd i gyfeiriad y gorllewin rhwng Heol y Castell a Stryd y Dwyrain a chyflwyno bae llwytho ar ochr ddeheuol Heol y Farchnad ble mae’r bae llwytho dros dro ar hyn o bryd.
Mae’r cynllun gwella Heol y Castell yn rhan o ymdrech i wella parcio ac i wella llwybrau cerdded a beicio i’r dref.
Gall aelodau o’r cyhoedd gael dweud eu dweud ar y cynlluniau ar-lein ac mewn arddangosfa gyhoeddus a fydd ar Heol y Castell ger Neuadd y Dref rhwng dydd Llun, 21 Mehefin a dydd Gwener, 25 Mehefin, 2021. Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 10am a 4pm yn ddyddiol, heblaw dydd Mercher, 23 Mehefin, pan fydd ar agor o 10am hyd 7pm.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd Cyngor Sir Ddinbych: “Am y tair blynedd diwethaf mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda grŵp Llangollen 2020 i ddatblygu’r cynlluniau hyn.
“Rydym eisiau cymaint o aelodau o’r gymuned â phosib i gael dweud eu dweud ar y cynlluniau diweddaraf ar gyfer y prosiect
“Mae’r arian yn ei le i gyflawni’r cynllun yn hydref a gaeaf 2021-22. Fodd bynnag, ni wnaed unrhyw benderfyniad terfynol gan y Cyngor ynglŷn â symud ymlaen gyda’r cynllun gan y bydd hyn yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad gydag unrhyw benderfyniad terfynol ar y cynllun i'w wneud gan Gabinet y Cyngor.
“Rydym hefyd yn ymwybodol o bryderon a godwyd ynghylch y goeden acacia ger Neuadd y Dref. Mae cyflwr y goeden yn parhau i gael ei asesu gan arbenigwyr coed ac ni wnaed unrhyw benderfyniadau ynglŷn â’i dyfodol.”
Mae’r ymarfer ymgynghori tair wythnos yn cychwyn heddiw (dydd Mawrth, 15 Mehefin) a bydd yn cau ar 6 Gorffennaf.
Bydd y Cyngor yn ymweld â busnesau Heol y Castell yn ystod yr wythnos yn cychwyn 21 Mehefin i roi’r cyfle iddynt drafod y cynigion gyda swyddogion.
Gallwch roi eich barn ar y cynlluniau yn https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/projectcy/600
Bydd copïau papur o’r holiadur ar-lein ar gael yn yr arddangosfa gyhoeddus a gellir hefyd wneud cais amdanynt trwy gysylltu â'r Cyngor ar 01824 706000. Bydd copïau o’r cynlluniau hefyd yn cael eu harddangos yn y ffenestri rhwng y Royal Hotel a Fouzi’s ar gyffordd Stryd y Bont/ Heol y Castell yn ystod yr ymgynghoriad 3 wythnos.