2003
2003 – Adran 28, a oedd yn gwahardd cynghorau ac ysgolion rhag hyrwyddo cyfunrywioldeb yn fwriadol, yn cael ei diddymu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gwnaeth Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth hi’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yn y gwaith.
Unigolyn trawsrywiol yn prynu nifer o westai (aralleiriad o ‘Transsexual buys string of hotels’)
Mae Stephanie Booth, a garcharwyd unwaith am werthu pornograffi, ac sy’n rhedeg gwefan newid rhyw a chroeswisgo a chasgliad o siopau dan yr enw masnachu “Transformation”, wedi prynu pump o westai a thafarndai yn Rhuthun. Ynghyd â’i gŵr, David Booth, prynasant Blas Bodidris, Llandegla (sy’n 600 mlwydd oed); Gwesty’r Plough, Llandegla; Gwesty’r Angor, Rhuthun; Gwesty’r Castell a’r Myddleton Arms yn Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun; a bwyty’r Clwyd Gate, rhwng yr Wyddgrug a Rhuthun.
Sefydlodd yr Albany Clinic fel canolfan lle gall pobl drawsrywiol gael cyngor ac arweiniad meddygol arbenigol ar eu cyflwr. Bu’n serennu mewn cyfres deledu realaeth yn ymwneud â’i busnesau ar BBC Wales yn 2008 a 2009 – ‘Hotel Stephanie’. Aeth ei gwestai i ddwylo’r gweinyddwyr yn 2011. Ar 18 Medi 2016, lladdwyd Booth mewn damwain tractor ar ei fferm ar gyrion Corwen, Sir Ddinbych.
Ffynhonnell: Daily Post, 3 Gorffennaf 2003; Wikipedia
Sefydlwyd Grŵp Croeswisgo Odyssey ym Mhrestatyn yn 2003, ac mae’n cyfarfod yn fisol yn Offa’s Tavern i gefnogi pobl sy’n croeswisgo a phobl androgynaidd. Yn 2005, mae’n dod yn rhan o Unique.
Mewn Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, rhoddodd John Sam Jones dystiolaeth, gan ddechrau fel hyn (cyfieithiad):
Fy enw yw John Sam Jones. Rwy’n Gymro Cymraeg o Feirionnydd (yn wreiddiol). Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Ymgynghorydd ar Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) yng Ngwasanaeth Addysg Sir Ddinbych. Am y bum mlynedd ddiwethaf rwyf wedi cadeirio Grŵp Cyswllt yr Heddlu a Phobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) Gogledd Cymru, ac am y 18 mis diwethaf rwyf wedi bod yn gadeirydd Fforwm LHD Cymru. Ar ddau achlysur yn ystod y pedair blynedd diwethaf rwyf wedi bod yn ymddiriedolwr Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl. Fi yw awdur Welsh Boys Too (Parthian, Cardiff, 2000) – casgliad o storïau byrion am fywydau dynion hoyw yng ngogledd Cymru. Enillodd y casgliad hwn o storïau wobr ‘Honour Book’ yng Ngwobrau Llyfrau LHD yr American Library Association yn 2002. Rwy’n 46 mlwydd oed ac wedi bod yn byw’n agored fel dyn hoyw ers oeddwn i’n 18 mlwydd oed.
Gellir gweld adroddiad llawn John ar wefan LGBTQ Cymru (gwefan allanol), yn yr adran Blogs.
2004 – Pasiwyd Deddf Partneriaeth Sifil 2004 gan y Llywodraeth Lafur, gan roi’r un hawliau a chyfrifoldebau â chyplau heterorywiol priod i gyplau o’r un rhyw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Pasiwyd Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 gan y Llywodraeth Lafur. Mae’r Ddeddf yn rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol i bobl drawsrywiol fel aelodau o’r rhyw sy’n briodol i’w rhywedd (gwryw neu fenyw), gan eu galluogi i gael tystysgrif geni newydd a rhoi cydnabyddiaeth lawn iddynt o’u rhyw newydd yn y gyfraith at bob diben, gan gynnwys priodi.