Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae cynlluniau’n cael eu datblygu i greu coetiroedd newydd i fynd i’r afael â newid hinsawdd ledled y sir.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd er mwyn helpu i greu ardaloedd o goetir newydd.

Cafodd bron i 5,000 o goed eu plannu yn gynharach eleni mewn pedwar safle yn y sir er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth.

Yn ogystal â hyn cafodd 18,000 o goed eu plannu ar hyd a lled y sir fel rhan o ffocws Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017-22 i warchod yr amgylchedd naturiol a hefyd cynnal a gwella bioamrywiaeth yn y sir.

Ym mis Gorffennaf 2019, pasiodd y Cyngor gynnig i ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol. Ffurfiwyd gweithgor trawsbleidiol i oruchwylio datblygiad Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol.

Mae’r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i geisio bod yn Gyngor Di-garbon Net ac Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Bydd y prosiect hwn i greu coetiroedd yn helpu’r Cyngor i gyflawni’r nod o fod yn ddi-garbon drwy gyfrannu at y swm o garbon a gaiff ei ddal a’i storio (neu’i amsugno).

Bydd ardaloedd ar Ffordd Parc Bodnant ym Mhrestatyn, Dol Corwenna yng Nghorwen a’r hen safle tirlenwi yn Henllan yn cynorthwyo i gyflawni’r targed Ecolegol Gadarnhaol trwy helpu’r Cyngor i wella cyfoeth y rhywogaethau ar dir lleol.

Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio i blannu hyd at 10,000 o goed ar draws y safleoedd newydd dewisedig.

Bydd cyfnod yr arolwg i geisio barn trigolion ynglŷn â chreu’r tri safle newydd yn Sir Ddinbych yn para o 31 Hydref tan 14 Tachwedd.

Dywedodd y Cynghorydd, Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae parhau â’n prosiect creu coetiroedd yn hanfodol i’n galluogi i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn Sir Ddinbych. Mae’r adborth a gawn gan bawb trwy’r arolygon hyn yn bwysig i’n helpu i fapio dyfodol y safleoedd hyn.

“Hoffem glywed eich barn am ddyluniadau’r coetiroedd gan gynnwys dewisiadau ar gyfer coed dathlu ym mhob safle, lleoedd i eistedd yn y safleoedd a syniadau am arwyddion gwybodaeth ar gyfer pob coetir ac unrhyw syniadau addas eraill ar gyfer y tir.

“Rydym hefyd yn awyddus i glywed a hoffai trigolion gymryd rhan ym mhob safle trwy weithgareddau megis diwrnod plannu coed a chyfleoedd eraill i wirfoddoli neu gael hyfforddiant.

 

I gael gafael ar yr arolwg a gwybodaeth bellach am y pedwar safle, edrychwch ar y dolenni isod:

Dol Corwenna, Corwen

https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/projectcy/694

 

Ffordd Parc Bodnant, Prestatyn

https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/projectcy/692

 

Gerddi'r Coroni, Y Rhyl

https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/projectcy/696

 

Ardaloedd glaswelltir preswyl (Prestatyn Y Rhyl)

https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/projectcy/698


Cyhoeddwyd ar: 07 Tachwedd 2022