Rydym ond yn derbyn tri bag o rwbel adeiladu, brics, teils a phridd yn ein Parciau Ailgylchu fesul mis. Os oes arnoch angen cael gwared ar fwy, yna gallwch logi sgip gan gwmni trwyddedig.
Mae gennym pump parc ailgylchu a gwastraff y gall preswylwyr eu defnyddio ar gyfer eu gwastraff domestig:
Dim ond preswylwyr o Sir Ddinbych gallai defnyddio’r parciau ailgylchu.
Mi fydd angen i chi darparu tystiolaeth i ddangos eich bod yn breswyliwr o Sir Ddinbych (e.e. trwydded gyrru neu bil cyfleustodau) er mwyn ddefnyddio’r parciau ailgylchu.
Ni fydd mynediad yn cael ei ganiatáu i bobl sydd ddim yn breswyliwr o Sir Ddinbych..
Ni ddosberthir rwbel adeiladu, brics, teils a phridd yn wastraff domestig (hyd yn oed os byddan nhw’n dod o aelwyd) a does yna ddim rhwymedigaeth arnom ni i dderbyn y rhain yn ein safleoedd. Er hynny, fe fyddwn ni yn derbyn rhywfaint ond dim mwy na 3 bag yr ymweliad. Os bydd arnoch angen gwaredu mwy o ddeunydd o’r math yma, yna dylech hurio sgip gan gwmni trwyddedig.
Eitemau nad oes modd eu hailgylchu ger ymyl palmant
Mae llawer o eitemau ailgylchadwy nad oes modd eu hailgylchu ger ymyl palmant, ond mae modd eu hailgylchu yn lleol. Fe ddylai pob deunydd pacio gael label ailgylchu arno. Mae labeli pacio a symbolau ailgylchu bellach i’w gweld ar lawer o eitemau bob dydd, ac maent yn dweud wrthym sut i ailgylchu gwahanol fathau o ddeunydd pacio.
Mwy o wybodaeth am labeli ailgylchu
Fel arfer mae gan eitemau ailgylchadwy eraill, nad oes modd eu hailgylchu ger ymyl palmant (e.e. bagiau plastig), bwyntiau casglu lleol.
Lle i fynd ag eitemau eraill i'w hailgylchu.
Trwyddedau
Bydd arnoch angen trwydded ar gyfer ein parciau ailgylchu a gwastraff os byddwch chi’n dod â gwastraff mewn trelar sydd â mwy nag un echel neu gerbyd o fath masnachol.