Cynllun Trochi Uwchradd yn Sir Ddinbych
Os nad yw dysgwyr wedi derbyn addysg gynradd Gymraeg, nid yw hi’n rhy hwyr i dderbyn addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ysgol Glan Clwyd
Yng ngogledd y sir mae Ysgol Glan Clwyd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg sy’n derbyn disgyblion i flwyddyn 7, nad ydynt wedi derbyn addysg Gymraeg yn yr ysgol gynradd.
Yn ystod eu hamser yn yr ysgol uwchradd, bydd y dysgwyr yn cael eu haddysgu gan nifer o athrawon a fydd yn rhoi sylw dwys i ddatblygu medrau Cymraeg y dysgwyr, fel eu bod yn dod yn rhugl yn yr iaith mewn cyfnod byr.
Dysgwch fwy am Gynllun Trochi’r Gymraeg Ysgol Glan Clwyd (gwefan allanol)
Mwy o wybodaeth
Mae cynlluniau ar y gweill gan yr Awdurdod i ymestyn y math yma o ddarpariaeth yn ne y sir hefyd.