Telerau ac amodau ar gyfer gwasanaethau cofrestru Sir Ddinbych.
Mae 'Ni' neu 'Ein' yn golygu Cyngor Sir Ddinbych ("y Cyngor")
'Chi' neu 'Eich' – yr unigolyn/unigolion a enwir ar y ffurflen bwcio seremoni.
Derbynnir eich trefniant bwcio seremoni priodi neu bartneriaeth sifil ar yr amod:
- Nad oes unrhyw reswm cyfreithiol i rwystro'r briodas neu'r bartneriaeth sifil a bod y Rhaghysbysiadau Cyfreithiol angenrheidiol yn cael eu cwblhau yn ôl y gofyn.
- Bod y Cofrestrydd Cyffredinol yn derbynl unrhyw bapurau ysgaru/diddymu priodas tramor ble bo hynny’n berthnasol.
Ffioedd
Gweld ein ffioedd cofrestru cyfredol
Bwcio Dros dro a Blaendal
Bydd talu blaendal yn cadw lle yn ein dyddiadur ar gyfer seremoni mewn Swyddfa Gofrestru neu i Gofrestrydd fynychu lleoliad priodi trwyddedig.Ni fydd modd ad-dalu'r ffi cofrestru dros dro a bydd y swm yn cael ei dynnu o'r ffi derfynol sy'n ddyledus..
Er mwyn sicrhau dyddiad ac amser sy’n fwy na 12 mis ymlaen llaw, mae ffi ychwanegol yn daladwy na fydd yn cael ei had-dalu ac na fydd yn cael ei thynnu o'r swm terfynol sy'n ddyledus.
Bydd cadarnhad o’ch Archeb Dros Dro yn cael ei anfon i’ch cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn symudol.
Mae ffioedd hysbysu yn daladwy pan fyddwch yn rhoi eich hysbysiad cyfreithiol o’ch bwriad i briodi neu lunio partneriaeth sifil; nid yw’r ffioedd hyn yn ad-daladwy.
Ffioedd seremoni a ffioedd tystysgrif
Bydd gweddill ffi'r seremoni’n ddyledus dim hwyrach a dwy (2) wythnos cyn y seremoni.
Nodwch na fyddwn yn anfon nodyn atgoffa. Os nad ydych yn talu erbyn y dyddiad dyledus bydd y seremoni’n cael ei chanslo gennym ni a byddwch yn colli unrhyw arian a dalwyd.
Tystysgrifau Ychwanegol
Os ydych wedi gwneud cais am, ac wedi talu am dystysgrifau ychwanegol, dylech fod yn ymwybodol y bydd POB tystysgrif yn cael ei phostio (drwy’r post 2il ddosbarth). Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am dystysgrifau sy’n mynd ar goll yn y post. Os nad ydych yn derbyn y tystysgrifau, bydd yn rhaid i chi wneud cais a taliad arall. Mae’n bosib I chi gasglu’r tystysgrif(au) o’r Swyddfa Gofrestru.
Llofnodi’r Atodlen
Yn ystod y seremoni gofynnir i chi lofnodi eich cofnod yn y Atodlen. Dylech wirio’n ofalus fod yr holl wybodaeth yn gywir cyn llofnodi.
Bydd yn rhaid cyfeirio unrhyw gywiriadau y gofynnir amdanynt ar ôl i'r Atodlen gael ei llofnodi i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol i'w hystyried, a bydd yn rhaid i chi dalu ffi orfodol, statudol o £90.
Canslo
Y pâr yn canslo
Dim ond gan un o’r partïon a oedd i fod yn rhan o’r seremoni y byddwn yn derbyn cais i ganslo, ni fyddwn yn derbyn hyn gan unrhyw barti arall. Os bydd yn rhaid i chi ganslo eich seremoni mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni yn ysgrifenedig, drwy e-bost o’r cyfeiriad e-bost a roddwyd ar adeg bwcio, neu drwy lythyr.
- Cedwir y blaendal os mai CHI sy’n canslo eich seremoni.
- Ni wneir unrhyw ad-daliad os caiff seremoni ei chanslo o fewn dwy (2) wythnos i ddyddiad y seremoni.
- Bydd methiant i fynychu seremoni a drefnwyd ar y dyddiad neu’r adeg benodedig yn cael ei drin fel canslo a bydd yr holl arian a dalwyd yn cael ei fforffedu.
Canslo gan Gyngor Sir Ddinbych
Gall y cyngor ganslo'r trefniant os nad ydych yn rhoi hysbysiad cyfreithiol i'r Cyngor o'ch bwriad i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil. Bydd y Cyngor yn cadw’r blaendal.
Cyrraedd yn Hwyr
Yr adeg a drefnwyd ar gyfer y seremoni yw’r adeg pan fydd y seremoni’n cychwyn.
Nodwch nad oes unrhyw gynlluniau wrth gefn yn eu lle os yw’r seremoni’n cael ei hoedi oherwydd bod y pâr sydd i briodi neu unrhyw rai o’u gwesteion yn hwyr, nac am unrhyw reswm arall.
Er mwyn cyflawni ei ymrwymiad i gynnal seremonïau eraill, bydd yn rhaid i'r cofrestrydd adael y lleoliad er mwyn cyrraedd ei seremoni nesaf erbyn yr amser a gytunwyd.
Os yw’n bosib i’r Cofrestrydd aros i gynnal eich seremoni, yna bydd anfoneb yn cael ei hanfon atoch am yr amser ychwanegol bu'n rhaid i'r Cofrestrydd aros.
Os bydd seremoni’n cael ei chanslo oherwydd bod rhywun yn hwyr yn cyrraedd, ni fydd ad-daliad yn cael ei wneud.
Tystion
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod gennych ddau dyst credadwy yn y seremoni. Mae’n rhaid i dystion sy'n llofnodi'r gofrestr fod yn 16 oed neu drosodd ac yn gallu siarad a deall Saesneg.
Seremonïau mewn strwythurau y gellir eu symud a seremonïau y tu allan
- rhaid cynnal seremoniau o fewn ffin y fangre cymeradwy adeiledig
- rhaid cytuno seremoniau awyr agored gyda ni yn ysgrifenedig
- mae’n rhaid i'r lleoliad trwyddedig gytuno a rhaid hefyd bod ag ystafell seremoni arall ar gael at eich defnydd rhag ofn y bydd yn rhaid cynnal y seremoni mewn ystafell dan do
- ni fydd y seremoni'n cael ei gynnal y tu allan os yw'r tywydd yn anffafriol. Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Cofrestrydd ar y diwrnod
Enwi ac adnewyddu addunedau
Bydd eich cais yn cael ei dderbyn ar yr amod y cyflwynir y dogfennau canlynol fel sy’n briodol:
- Tystysgrif geni’r sawl sy’n cael eu henwi; a/neu
- Tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil parau sy’n adnewyddu eu haddunedau.
Nodwch na fydd y seremonïau hyn yn rhoi unrhyw statws na hawliau cyfreithiol.
Anifeiliaid
Ni fyddwn yn caniatáu i anifeiliaid o unrhyw fath (ar wahân i gwn y deillion neu anifeiliaid cynorthwyol) fod yn bresennol mewn seremonïau yn ein swyddfeydd cofrestru ni ein hunain.
Os bydd lleoliad cymeradwy’n caniatáu anifeiliaid yn y seremoni yn y lleoliad hwnnw sy'n llwyr gyfrifol am iechyd a diogelwch gwesteion ac unrhyw faterion cadw tŷ sy'n codi yn sgil hynny. Mae’n rhaid i ni gael gwybod am y trefniadau hyn cyn diwrnod y seremoni.
Ffotograffau
Fel arfer bydd rhywle y tu mewn a/neu'r tu allan i'r lleoliad ar gyfer ffotograffau. Caniateir i’r ffotograffydd swyddogol dynnu nifer cyfyngedig o luniau yn ystod y seremoni drwy drefniant ymlaen llaw gyda'r cofrestrydd sy’n cynnal y seremoni.
Ni ddylid caniatáu i ffotograffwyr oedi cychwyn y seremoni yn ddiangen.
Ni chaniateir tynnu llun na ffilmio'r gofrestr/atodlen oherwydd cyfyngiadau diogelu data.
Mae'r cofrestrydd yn neilltuo'r hawl i stopio unrhyw luniau/fideo os yw'n credu eu bod yn tarfu'n ddiangen ar, neu'n torri ar draws y seremoni neu gofrestriad y briodas/partneriaeth sifil.
Ymddygiad
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymrwymedig i gynnal amgylchedd gwaith diogel ac iach i’w holl staff. Mae’r Cyngor yn disgwyl i’r cyhoedd drin gweithwyr gyda chwrteisi a pharch ac ni fydd yn goddef unrhyw un sy’n ymddwyn yn fygythiol tuag at ei staff.
Atebolrwydd
Ni allwn dderbyn unrhyw atebolrwydd dros:
- Unrhyw seremoni y mae’n rhaid ei chanslo o ganlyniad i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni
- Unrhyw oedi neu golled a achosir oherwydd bod gwesteion yn cyrraedd yn hwyr neu ddim yn cyrraedd
- Unrhyw golled i chi, ariannol neu fel arall, a achosir oherwydd cais gennych chi neu eich cynrychiolydd i oedi’r seremoni.
- Methiant unrhyw system gerddoriaeth neu ddyfais a ddarparwyd gan y lleoliad, gennych chi neu gan drydydd parti.
- Camgymeriadau neu fethiannau a achoswyd gan leoliad nad yw’n eiddo i Gyngor Sir Ddinbych. Rhoddir cymeradwyaeth i’r lleoliad dim ond mewn perthynas a darpariaeth seremonïau
- Unrhyw golled neu iawndal cysylltiedig â'r angen i stopio seremoni rhag mynd yn ei blaen oherwydd:
- y byddai’n ddi-rym pe bai’n cael ei chynnal
- y byddai trosedd yn cael ei chyflawni o dan y Deddfau Priodas neu Bartneriaethau Sifil, neu
- y bernir nad yw’r naill barti neu’r llall yn ffit i barhau oherwydd salwch neu oherwydd eu bod wedi yfed alcohol neu wedi cymryd sylweddau eraill.
Ni fyddwn yn derbyn atebolrwydd am unrhyw gostau neu golledion sy’n digwydd o ganlyniad i orfod newid y lleoliad neu amser y seremoni.
Rydym yn neilltuo’r hawl i wneud y penderfyniad terfynol ar unrhyw eiriad a ddefnyddir wrth gynnal eich seremoni ac ni fyddwn yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw beth sy'n cael ei adael allan.
Nodwch os gwelwch yn dda, os ar ôl archebu eich seremoni rydych yn dymuno newid eich lleoliad, dyddiad neu amser, bydd hyn yn cael ei drin fel seremoni wedi’i chanslo, gan arwain at eich blaendal yn cael ei fforffedu. Bydd angen i chi wneud archeb newydd ynghyd a blaendaliadau/ffioedd archebu. Ni fydd yn bosibl trosglwyddo arian a dalwyd eisoes ar gyfer seremoni sydd bellach wedi'i chanslo.
Nodwch os gwelwch yn dda fod yr holl ffioedd yn cynyddu a’u cymhwyso bob mis Ebrill
Ein manylion cyswllt yw ceremonies@denbighshire.gov.uk