Addysgu'ch plentyn gartref
Addysg Ddewisol yn y Cartref yw term sy’n cael ei defnyddio i ddisgrifio pan fo rhieni a gofalwyr yn addysgu eu plant yn y cartref yn lle eu hanfon i’r ysgol.
Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, mae addysg yn orfodol, ond nid yw’n orfodol anfon plant i’r ysgol. Fel rhiant, mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich plentyn yn derbyn addysg llawn amser addas, effeithlon ac effeithiol o 5 oed ymlaen.
Wrth bwy ddylwn i roi gwybod os ydw i’n dymuno addysgu fy mhlentyn yn y cartref?
Os ydych chi’n cymryd eich plentyn allan o’r ysgol i’w haddysgu gartref, mae’n rhaid i chi roi gwybod i Bennaeth yr ysgol yn ysgrifenedig, a gofyn iddynt dynnu enw eich plentyn oddi ar y gofrestr gyda’r bwriad o’u haddysgu nhw gartref. Bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i ni, a bydd enw eich plentyn yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr. Os byddwch chi’n newid eich meddwl, bydd rhaid i chi ymgeisio eto am le mewn ysgol, ac efallai na fydd llefydd ar gael yn yr un ysgol bob amser.
Plant gyda Chynllun Datblygu Unigol neu Ddatganiad o Anghenion Addysg Arbennig
Os oes gan eich plentyn Gynllun Datblygu Unigol (CDU) neu Ddatganiad o Anghenion Addysg Arbennig (AAA) a’ch bod yn dymuno eu cymryd allan o ysgol brif ffrwd i’w haddysgu yn y cartref, bydd angen i chi roi gwybod i bennaeth yr ysgol yn ysgrifenedig, a gofyn iddynt dynnu enw eich plentyn oddi ar y gofrestr. Bydd angen i’r CDU neu Ddatganiad AAA gael ei adolygu cyn i enw eich plentyn gael ei dynnu oddi ar y gofrestr.
Serch hynny, os ydi’ch plentyn yn mynychu ysgol arbennig, bydd yn rhaid i chi gael caniatâd gan yr Awdurdod Lleol cyn eu tynnu oddi ar y gofrestr.
Plant nad ydynt wedi’u cofrestru mewn ysgol
Os ydi eich plentyn bron â chyrraedd oedran ysgol gorfodol ac nad ydynt wedi cael eu cofrestru mewn ysgol, yn gyfreithiol, nid oes yn rhaid i chi roi gwybod i’r awdurdod lleol eich bod yn bwriadu addysgu eich plentyn yn y cartref, serch hynny, fe argymhellir yn gryf eich bod yn gwneud hynny, fel bod modd i ni gysylltu i gynnig cefnogaeth.
Os ydi eich plentyn bron â chyrraedd oedran ysgol gorfodol ac nad ydynt wedi cael eu cofrestru mewn ysgol, gallwch anfon e-bost atom ni i roi gwybod eich bod chi’n dymuno addysgu eich plentyn yn y cartref.
Help a Chefnogaeth
Mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref yn derbyn addysg addas. Fe fyddwn ni’n cysylltu i gynnig cefnogaeth ac arweiniad a darparu cyfleoedd i gyfarfod gyda chi i drafod yr addysg mae eich plentyn yn ei derbyn.
Adnoddau ar gyfer addysgu yn y cartref
Mae adnoddau ar gael i’ch helpu chi i addysgu eich plentyn yn y cartref.
Llawlyfr i addysgwyr yn y cartref
Mae’r llawlyfr i addysgwyr yn y cartref yn darparu gwybodaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n addysgu eu plentyn yn y cartref a’r rhai sy’n ystyried gwneud hynny.
Gweler y llawlyfr ar gyfer addysgwyr yn y cartref (gwefan allanol)
Cymorth â’r Gymraeg
Mae’r gwefannau canlynol yn cynnig cymorth gyda dysgu’r Gymraeg:
Gyrfa Cymru
Gall Gyrfa Cymru roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i chi ar gyfer helpu eich plentyn i gynllunio ar gyfer eu dyfodol.
Dysgwch fwy am Gyrfa Cymru (gwefan allanol)
Hwb
Mae Hwb yn blatfform dysgu digidol sy’n cynnig adnoddau dysgu rhad ac am ddim i gefnogi darpariaeth y cwricwlwm i Gymru.
Ewch i hwb.llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth (gwefan allanol)
Teithiau addysgol
Mae’r gwefannau canlynol yn darparu gwybodaeth am deithiau addysgol:
Cyfleoedd i wirfoddoli
Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli ar wefan Gwirfoddoli Cymru.
Ewch i wefan Gwirfoddoli Cymru (gwefan allanol)
Celfyddydau creadigol a pherfformio
Gall y sefydliadau canlynol helpu pobl ifanc i archwilio a datblygu eu talentau perfformio a chreadigol:
Chwaraeon
Nod SportsAid yw annog, galluogi a grymuso’r genhedlaeth nesaf o athletwyr i gyflawni eu huchelgeisiau mewn chwaraeon a bywyd.
Ewch i wefan SportsAid i gael rhagor o wybodaeth (gwefan allanol)
Llyfrgelloedd
Mae gan eich llyfrgell leol amrywiaeth eang o adnoddau y gallwch eu defnyddio yn rhad ac am ddim.
Dewch o hyd i’ch llyfrgell leol
Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn agored i bawb rhwng 11 a 25 oed, ac mae’n cynnig gweithgareddau cymdeithasol a chyfleoedd i ddatblygu diddordebau yn ogystal â chymorth a chefnogaeth i unrhyw un sydd eu hangen.
Dysgwch fwy am Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych