Apeliadau derbyn i ysgolion

Os nad yw eich plentyn wedi cael lle yn yr ysgol rydych yn ei ffafrio, mae gennych chi’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Mae hyn yn berthnasol i bob cam o addysg orfodol.

Nid yw addysg feithrin yn orfodol ac felly ni all rheini a gofalwyr apelio os gwrthodir lle mewn dosbarth meithrin.

Ar gyfer dosbarthiadau babanod (derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2) mae apeliadau’n gyfyngedig o dan y gyfraith o ganlyniad i uchafswm maint dosbarth o 30. Gall apêl ar gyfer y dosbarth derbyn, blwyddyn 1 neu flwyddyn 2 lwyddo dim ond os:

  • Oedd y penderfyniad yn afresymol, neu
  • Ni weithredwyd y rheolau derbyn yn gywir, a dylai’r plentyn fod wedi cael cynnig lle.

Mae’r broses apêl wedi ei chynllunio i sicrhau fod penderfyniadau’n deg i bawb sy’n ymwneud â hyn – rhieni, plant, ysgolion ac awdurdodau derbyn.

Sut i apelio

Os gwrthodir cais eich plentyn, byddwch yn derbyn llythyr gan awdurdod derbyn yr ysgol yn egluro pam oedd y cais yn aflwyddiannus. Bydd y llythyr hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn ag ysgol arall os rhestrwyd mwy nag un dewis.

Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn, ond mae’n rhaid i apeliadau gael eu gwneud o fewn 15 diwrnod gwaith i’r dyddiad ar y llythyr gwrthod.

Apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch derbyn i ysgol

Dim ond ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion eraill a gynhelir gan yr awdurdod lleol mae’r ffurflen hon, ac nid yw ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir.

Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir

Ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (e.e. ysgolion ffydd), bydd angen i rieni a gofalwyr ysgrifennu’n uniongyrchol at Gadeirydd y Llywodraethwyr yn yr ysgol benodol. Dylai’r llythyr gynnwys y rhesymau dros wneud cais am yr apêl. Yr ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn Sir Ddinbych yw:

  • Ysgol Gatholig Crist y Gair
  • Ysgol Trefnant
  • Ysgol y Santes Ffraid

Apelio yn erbyn mwy nag un cais aflwyddiannus

Os ydych yn apelio yn erbyn mwy nag un cais aflwyddiannus, yna cwblhewch ffurflen ar gyfer pob apêl.

Ynglŷn â’r broses apeliadau

Bydd ein Hadran Gyfreithiol yn trefnu’r gwrandawiad apêl ac yn hysbysu rhieni a gofalwyr o leiaf 10 diwrnod gwaith ymlaen llaw. Ar gyfer derbyniadau mis Medi, bydd gwrandawiadau apêl fel arfer yn cael eu cynnal ym mis Mai neu Mehefin.

Pwy fydd yn gwrando ar yr apêl?

Bydd panel annibynnol yn cynnwys tri aelod yn gwrando ar yr apêl.  Bydd un ohonynt yn gweithredu fel Cadeirydd, gan reoli’r broses a sicrhau ei fod yn deg. Mae’r panel yn gwbl annibynnol i awdurdod derbyn yr ysgol.

Pwy fydd yn y gwrandawiad apêl?

Bydd y canlynol yn y gwrandawiad apêl:

  • rhieni neu ofalwyr (a ffrind neu gynrychiolydd os dymunir)
  • cynrychiolwyr o awdurdod derbyn yr ysgol a fydd yn egluro pam na chynigiwyd lle i’r plentyn
  • Clerc a fydd yn sicrhau fod y broses yn deg, yn cynghori ar weithdrefnau ac yn cofnodi’r penderfyniad. Nid yw’r Clerc yn cymryd rhan yn y broses o wneud y penderfyniad.

Beth mae’r rhiant neu’r gofalwr yn ei dderbyn cyn y gwrandawiad

O leiaf bum diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, fe fydd rhieni a gofalwyr yn derbyn:

  • datganiad ysgrifenedig gan awdurdod derbyn yr ysgol yn egluro pam na chynigiwyd lle i’r plentyn a sut y gweithredwyd y rheolau derbyn.
  • dogfennau ategol ar gyfer yr apêl, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth a gyflwynwyd.
  • manylion cyswllt ar gyfer y Clerc i’r Panel Apêl.

Sut i baratoi

I baratoi ar gyfer gwrandawiad apêl, gallwch:

  • ysgrifennu’r prif bwyntiau i’w cyflwyno i’r panel
  • paratoi unrhyw gwestiynau i’w gofyn i awdurdod derbyn yr ysgol
  • casglu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth ynghyd i gefnogi’r apêl

Mynychu’r apêl

Nid yw’n orfodol fod rhieni neu ofalwyr yn mynychu’r apêl, ond argymhellir iddynt wneud hynny. Mae mynychu yn rhoi’r cyfle i rieni a gofalwyr i egluro eu hachos wyneb yn wyneb. Os nad yw’n bosibl iddynt fod yn bresennol bydd y panel yn ystyried y wybodaeth ysgrifenedig a ddarparwyd ar y ffurflen apêl.

Os na all y rhiant neu’r gofalwr fod yn bresennol, cysylltwch â’r Clerc cyn gynted â phosibl. Mae’n bosibl y bydd modd iddynt aildrefnu’r apêl. Os nad yw’n bosibl aildrefnu, bydd yr apêl yn parhau yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael.

A oes rhaid i’r plentyn fod yn bresennol?

Nid oes angen i blant fod yn bresennol yn y gwrandawiad. Fodd bynnag, os yw rhieni’n teimlo fod hynny’n bwysig yna dylent gysylltu â’r Clerc i wirio a yw hyn yn cael ei ganiatáu.

Beth sy’n digwydd yn y gwrandawiad apêl?

Yn yr apêl:

  1. bydd y Cadeirydd yn croesawu pawb ac yn egluro’r weithdrefn
  2. bydd cynrychiolydd o awdurdod derbyn yr ysgol yn cyflwyno eu hachos, gan egluro pam na chynigiwyd lle i’r plentyn
  3. bydd rhieni a gofalwyr yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau
  4. bydd y panel yn ystyried a ddilynodd yr awdurdod derbyn y gweithdrefnau cywir
    • os gwnaed camgymeriadau, fe all y panel roi cyfarwyddyd i’r ysgol i gynnig lle i’r plentyn
    • os dilynwyd gweithdrefnau yn gywir, bydd y gwrandawiad yn parhau
  5. bydd rhieni a gofalwyr yn cyflwyno eu hachos, gan egluro pam y dylai eu plentyn gael ei dderbyn i’r ysgol
  6. gall y panel a’r awdurdod derbyn holi cwestiynau
  7. bydd y ddwy ochr yn crynhoi eu hachos cyn i’r panel drafod

Pryd fydd y rhieni yn cael gwybod beth yw’r penderfyniad?

Bydd y panel yn gwneud penderfyniad ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth. Os oes yna sawl apêl ar gyfer yr un ysgol, dim ond wedi i’r holl wrandawiadau gael eu cwblhau y bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud. Bydd rhieni a gofalwyr yn cael gwybod y canlyniad dros y ffôn ac yn ysgrifenedig, fel arfer o fewn pum diwrnod gwaith.

Apeliadau aflwyddiannus

Os yw apêl yn aflwyddiannus, ni fydd lle yn cael ei gynnig i’r plentyn yn yr ysgol. Byddwn yn rhoi gwybod i rieni a gofalwyr am ysgolion eraill sydd â lleoedd ar gael. Os yw’r ysgol arall yn bell fe allai’r rhieni fod yn gymwys am gludiant ysgol am ddim.

Ar ôl penderfyniad apêl

Mae penderfyniad y panel yn derfynol ac yn rhwymol ar gyfer yr holl bartïon. Ni all rhieni a gofalwyr apelio am yr un ysgol a blwyddyn oni bai fod yna newid sylweddol mewn amgylchiadau. Gallwch gysylltu â ni i drafod p’un ai y gellir caniatáu apêl newydd.

Os yw’r broses yn ymddangos yn annheg, gall rhieni a gofalwyr:

  • gwyno i Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus a all ymchwilio i faterion fel tuedd neu weithdrefn annheg.
  • cysylltu â Llywodraeth Cymru a all adolygu a oedd y broses yn dilyn y rheolau, ond ni all wrthdroi’r penderfyniad.

Mewn achosion prin fe allai rhieni a gofalwyr geisio Adolygiad Barnwrol drwy’r llysoedd i herio penderfyniad y panel.