Diogelu Data
Gall y wybodaeth y gofynnir amdani am ddisgyblion a'r unigolyn sy'n cwblhau'r ffurflen, yn unol â Deddf Diogelu Data 1998, gael ei rhannu ag adrannau eraill, cyrff llywodraeth a sefydliadau eraill sy'n darparu gwasanaeth sy’n ymwneud â darparu cludiant ysgol a'r modd y caiff ei reoli.
Gall yr adrannau, cyrff llywodraethu a sefydliadau eraill gysylltu â'r unigolyn sy'n cwblhau'r cais hwn yn uniongyrchol.
Teledu Cylch Caeëdig
Mae’n bosibl y bydd teledu cylch caeëdig yn cael ei ddefnyddio ar rai teithiau a bydd gwybodaeth a chlipiau fideo o’r disgybl yn cael eu storio a'u prosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
Cod ymddygiad ar gludiant ysgol
Darllenwch y cod ymddygiad ar gludiant ysgol a byddwch yn ymwybodol o'r goblygiadau os nad yw'r disgybl yn cadw at y cod.
Os bydd y disgybl yn achosi niwed bwriadol i unrhyw ddarpariaeth cludiant a ddarperir dan gontract i Gyngor Sir Ddinbych, bydd angen gwneud ad-daliad i'r contractwr cludiant am gost lawn atgyweirio'r difrod neu newid yr eitem a ddifrodwyd yn ôl disgresiwn y contractwr.