Mae pob ysgol yn Sir Ddinbych yn darparu cinio ysgol. Mae cinio ysgol ysgolion cynradd â phris penodol ond mae ysgolion uwchradd â phrisiau gwahanol ar gyfer prydau bwyd gwahanol.
Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd
I helpu â chostau byw cynyddol, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pob disgybl cynradd yn cael cynnig prydau ysgol am ddim erbyn 2024 drwy’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.
Mae hwn yn wahanol i’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim sydd ar gael i bobl sy’n derbyn budd-daliadau penodol.
Os ydych yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim oherwydd eich bod yn cael budd-dal cymwys, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim gan y byddwch hefyd yn gymwys am y Grant Hanfodion Ysgol.
Newidiadau i Amddiffyn wrth Bontio o 1 Ionawr 2024
Mae Amddiffyn wrth Bontio ar gael ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd cyn 31 Rhagfyr 2023 yn unig, felly ni fydd yn berthnasol i unrhyw geisiadau newydd a wnaed ers 1 Ionawr 2024.
Bydd unrhyw blentyn sy’n derbyn prydau ysgol am ddim gydag Amddiffyn wrth Bontio cyn 31 Rhagfyr 2023 yn cadw’r amddiffyniad hwnnw nes byddant yn gorffen eu cam presennol o addysg (naill ai ysgol gynradd neu uwchradd). Mae hyn yn golygu os bydd eich plentyn yn dechrau blwyddyn 7 a’ch bod yn cael un o’r budd-daliadau cymwys, byddwch angen ailymgeisio am brydau ysgol am ddim.
Os ydy eich plentyn yn mynd i’r ysgol gynradd, bydd ganddynt dal hawl i Brydau Ysgol am Ddim i holl blant ysgolion cynradd, hyd yn oed os nad ydynt yn gymwys i brydau ysgol am ddim ac nad yw eich plentyn wedi’i amddiffyn wrth bontio.
Fe all eich plentyn chi gael cinio ysgol am ddim os ydych chi’n derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn; Credyd Gwarantedig
- Treth Credyd Plant (ond nid Credyd Treth Gwaith) gydag incwm blynyddol llai na £16,190
- Cymorth o dan Adran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
- Credyd Cynhwysol - O 1 Ebrill 2019, i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim trwy dderbyn Credyd Cynhwysol, ni ddylai’ch enillion net blynyddol fod dros £7,400.
Mwy o wybodaeth am budd-daliadau di-dreth a buddion trethadwy (gwefan allanol).
Nid oes modd i blentyn maeth dderbyn cinio ysgol am ddim. Mae rhieni maeth eisoes yn cael lwfans i edrych ar ôl y plentyn.
Sut i hawlio cinio ysgol am ddim
Y dyddiad cau i ymgeisio am brydau ysgol am ddim ar gyfer y flwyddyn ysgol 2024/2025 yw 31 Mai 2025.
Gwneud cais ar-lein am ginio ysgol am ddim (ar gyfer plentyn yn un o ysgolion Sir Ddinbych)
Newid ysgolion
Bydd angen i chi roi gwybod i ni os yw eich plentyn yn gadael neu’n newid ysgol.
Dylech lenwi ffurflen gais prydau ysgol am ddim newydd os yw’ch plentyn wedi symud i ysgol arall yn Sir Ddinbych neu cysylltwch â ni i ganslo cinio ysgol am ddim
Gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol eraill