Mae gan bob plentyn y cyfle i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg ac mae dwyieithrwydd yn cael ei gyflwyno cyn gynted ag y bo modd.
Mae Cymraeg yn rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn dibynnu ar yr ysgol, yn cael ei addysgu fel iaith gyntaf neu fel ail iaith.
Ysgolion Cynradd
Mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, mae’r holl bynciau’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Saesneg yn bwnc ynddo’i hun.
Mewn ysgolion cynradd Saesneg, mae pynciau’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg, gyda’r Gymraeg yn cael ei chyflwyno cyn gynted ag y bo modd. Yn ystod y dydd mae plant yn cael eu hannog i siarad Cymraeg.
Mewn ysgolion cynradd dwyieithog (dwy ffrwd), mae’r plant yn cael dewis a hoffan nhw ddysgu drwy’r Gymraeg neu’r drwy’r Saesneg.
Ysgolion Uwchradd
Mewn ysgolion uwchradd, mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu fel pwnc (naill ai fel iaith gyntaf neu fel ail iaith). Mae’n bwnc TGAU gorfodol ynghyd â Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Mae disgyblion Cymraeg Iaith Gyntaf yn astudio iaith a llenyddiaeth. Mae Cymraeg Ail Iaith yn cael ei haddysgu yn yr un modd ag ieithoedd tramor modern.
Mewn ysgolion uwchradd Cymraeg, mae pob pwnc yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a gwersi Cymraeg Iaith Gyntaf sy’n cael eu cynnig. Mewn ysgolion uwchradd Saesneg, mae’r holl bynciau’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg a gwersi Cymraeg Ail Iaith sy’n cael eu cynnig. Mewn ysgolion dwyieithog, mae’r disgyblion yn dewis a hoffan nhw astudio drwy’r Gymraeg neu drwy’r Saesneg.