Mae’n gyfrifoldeb arnom ni i adolygu darpariaeth ein hysgolion yn rheo0laidd i sicrhau ein bod ni’n darparu’r addysg gorau posib fel bod modd i’n ddisgyblion wireddu eu potensial.
Mewn rhai ardaloedd yn Sir Ddinbych mae gan ysgolion lefydd dros ben ond, mewn ardaloedd eraill, does dim digon o le i ddiwallu’r galw lleol. Mae’n rhaid i lawer o’n hysgolion ddefnyddio llety symudol, fel cabanau cludadwy, fel ystafelloedd dosbarth.
Mae hi bellach yn fwyfwy anodd i addysgu disgyblion oherwydd nad ydi’r ysgolion wedi eu cynllunio i addysgu’r cwricwlwm modern (fel y cyfnod allweddol). Mae penaethiaid wedi bod yn gwneud y gorau o’r hyn sydd gennym ni ond mae arnom ni angen buddsoddi yn adeiladau ein hysgolion fel bod ein disgyblion yn dysgu yn yr amgylchedd orau posib.
Mae arnom ni angen adolygu ein darpariaeth er mwyn:
- sicrhau bod y ddarpariaeth o’r radd flaenaf ac yn gynaliadwy yn y tymor hir
- gwella ansawdd adeiladau a chyfleusterau ysgol
- darparu'r nifer cywir o leoedd ysgol a'r mathau cywir, yn y lleoedd cywir
Beth rydym ni'n ei wneud?
Rydym ni'n moderneiddio addysg Sir Ddinbych drwy gynnal cyfres o adolygiadau ardal. Mae hyn yn golygu ein bod yn edrych ar grwpiau o ysgolion yn y sir i weld a oes modd i ni wella darpariaeth addysg pob ardal. Gall hynny gynnwys cau neu uno ysgolion, neu agor ysgolion newydd.
Rydym ni’n adolygu ein hysgolion fesul ardal i sicrhau, pan rydym ni’n gwneud newidiadau i ysgol, ein bod ni’n ystyried yr effaith ar ysgolion eraill gerllaw.
Pan fyddwn yn cynnal adolygiad ardal byddwn yn ymgynghori â rhieni sydd â phlant yn mynychu ysgolion yn yr ardal honno. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud ac i fod yn rhan o’r penderfyniad.
Cadwch yn gyfoes gyda'r hyn rydym ni'n ei wneud gan ddarllen ein blog (gwefan allanol).
Gwelwch ein hymgynghoriadau presennol