Gwybodaeth i bobl ifanc am Wasanaeth Cwnsela Annibynnol Sir Ddinbych i Bobl Ifanc

Mae ein Gwasanaeth Cwnsela yn rhoi’r cyfle i chi siarad gyda chwnselydd annibynnol am unrhyw broblemau cymdeithasol neu emosiynol y gallai fod gennych, a hynny mewn dull diogel a hygyrch.

Diweddaraf am coronafeirws

Mae’r Gwasanaeth Cwnsela (DIYPCS) ar hyn o bryd yn darparu cwnsela wyneb yn wyneb mewn ysgolion yn dilyn canllawiau iechyd a diogelwch ac yn parhau i gynnig gwasanaeth ar-lein. Croesewir atgyfeiriadau newydd.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau a'n cyngor ewch i sirddinbych.gov.uk/coronafeirws

Argyfyngau

Os wyt mewn argyfwng ac angen cefnogaeth yn syth, cysyllta â:

  • Os bydd dy fywyd mewn perygl uniongyrchol, ffonia 999 i gael help mewn argyfwng.
  • Y Samariaid – Ffonia 08457 909090
  • Childline (hyd at 25 oed) – Ffonia 0800 1111

Cwnselwyr

Mae ein holl gwnselwyr wedi cymhwyso’n llawn ac mae ganddynt lawer o brofiad o ran gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac maent wedi eu hachredu gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP).

I bwy mae’r gwasanaeth cwnsela ar gael?

Fe all unrhyw blentyn neu berson ifanc rhwng 11 a 18 oed (Blwyddyn 6 i Flwyddyn 13) sy’n byw yn Sir Ddinbych neu’n mynd i ysgol yn y sir, gael cwnsela.

Atgyfeirio eich hun i’r gwasanaeth cwnsela

Gwybodaeth am sut i gwneud atgyfeiriad at Wasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych

Caniatâd ar gyfer cwnsela

Dysgwch am bwy sydd angen caniatâd a sut i'w ddarparu.

Mwy o wybodaeth

Gwybodaeth am sesiynau Wasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych.

Fe allwch gysylltu â ni os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwasanaeth.