Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.
Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Gwybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Ydych chi'n byw yn Sir Ddinbych mewn aelwyd incwm isel? Ydych chi’n mynychu Ysgol yn Sir Ddinbych? Os ydych chi, gallech chi fod yn gymwys i gael cynnyrch mislif yn rhad ac am ddim, naill ai rhai y gallwch eu hailddefnyddio neu rai ecogyfeillgar danfon yn syth at eich drws.
Mae Sir Ddinbych, drwy Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, wedi sicrhau cyllid i gefnogi teuluoedd a phobl ifanc yn Sir Ddinbych i gael mynediad at gynnyrch mislif yn rhad ac am ddim. Rydym wedi ffurfio partneriaeth â Hey Girls i ddarparu'r gwasanaeth hwn. Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Hey Girls (gwefan allanol).
Mae'r holl gynnyrch yn ecogyfeillgar ac yn ddi-blastig.
Os hoffech chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth tanysgrifio am ddim, lle gallwch chi ddewis cynnyrch y gallwch ei ailddefnyddio / ei ddefnyddio unwaith a’i daflu, yna ewch i:
Cofrestrwch i gael cynnyrch mislif am ddim
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â perioddignity@denbighshire.gov.uk.
Browser does not support script.