Clirio eira a rhew oddi ar balmentydd eich hun
Gall unrhyw un glirio eira a rhew oddi ar y palmant tu allan i'w cartref neu fannau cyhoeddus i atal baglu a syrthio.
Peidiwch â pheidio clirio llwybrau gan eich bod ofn bydd rhywun yn brifo - cofiwch, mae’n gyfrifoldeb ar bobl sy’n cerdded ar eira a rhew i fod yn ofalus. Mae'n annhebygol y cewch eich siwio neu eich dal yn gyfreithiol gyfrifol am unrhyw anafiadau os ydych wedi clirio’r llwybr yn ofalus.
Clirio'r eira neu rew yn gynnar yn y dydd
Mae'n haws symud eira ffres, rhydd yn hytrach nag eira caled sydd wedi’i wasgu at ei gilydd gan bobl yn cerdded arno. Felly, os yn bosibl, dechreuwch gael gwared ar yr eira a’r rhew yn y bore. Os cewch wared ar yr haen uchaf o eira yn y bore, bydd unrhyw haul yn ystod y dydd yn helpu toddi unrhyw rew oddi tano. Yna, gallwch daenu’r llwybr â halen cyn iddi nosi i’w atal rhag ail-rewi dros nos.
Defnyddio halen neu dywod - nid dŵr
Os ydych yn defnyddio dŵr i doddi'r eira, gallai ail-rewi a throi'n rhew du. Mae rhew du yn cynyddu'r risg o anafiadau gan na ellir ei weld ac mae’n llithrig iawn. Gallwch atal rhew du, drwy daenu ychydig o halen ar yr ardal rydych wedi’i chlirio. Gallwch ddefnyddio halen bwrdd cyffredin neu halen peiriant golchi llestri - dylai llwy fwrdd ar gyfer pob metr sgwâr a gliriwch fod yn ddigon.
Peidiwch â defnyddio'r halen a geir mewn biniau halltu, gan y cedwir hwn ar gyfer clirio ffyrdd, yn hytrach na phalmentydd.
Gofalwch beidio taenu halen ar blanhigion neu laswellt gan y gallai eu difrodi
Os nad oes gennych ddigon o halen, gallwch hefyd ddefnyddio tywod neu ludw. Ni fydd y rhain yn stopio’r llwybr rhag rhewi gystal â halen, ond bydd yn rhoi gafael da dan draed.
Cymerwch ofal ble rydych yn symud yr eira
Pan fyddwch yn clirio eira, cymerwch ofal lle rydych yn ei roi fel nad yw'n blocio llwybrau na draeniau pobl.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud llwybr i lawr canol yr ardal i'w chlirio yn gyntaf, fel bod gennych wyneb clir i gerdded arno. Yna rhawiwch yr eira o ganol y llwybr i'r ochrau.
Cynnig i glirio llwybrau eich cymdogion
Os bydd eich cymydog yn cael trafferth mynd i mewn ac allan o'u cartref, gallech gynnig clirio eira a rhew o amgylch eu heiddo nhw hefyd. Gwiriwch fod unrhyw gymdogion oedrannus neu anabl yn iawn yn y tywydd oer. Os ydych chi'n poeni amdanynt, cysylltwch â'r gwasanaethau cymdeithasol ar 0300 456 1000.