Fe lansiwyd y cynllun Troi Tai’n Gartrefi gan Lywodraeth Cymru i roi cyllid ar gael i gynghorau i gynig benthyciadau di-log tymor byr i helpu gyda chostau adnewyddu wrth adfer eiddo sydd wedi bod yn wag am dymor hir er mwyn gallu eu defnyddio eto. Y benthyciad mwyaf sydd ar gael ydi £25,000 am bob uned o lety a hyd at uchafswm o £150,000 yr ymgeisydd. Gallwch ddarllen ein taflen i gael mwy o wybodaeth.
Troi tai'n gartrefi (PDF, 97KB)
Pwy all ymgeisio?
Perchnogion eiddo sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy neu berchnogion sy’n bwriadu gosod neu werthu eu heiddo.
Sut mae ymgeisio?
Bydd angen i chi lenwi a dychwelyd ein ffurflen ymholi:
Troi tai'n gartrefi: Ffurflen gais (MS Word, 1.2MB)