Ardal Gwella Busnes (AGB)
Partneriaethau a arweinir gan fusnesau ac a grëir trwy broses bleidleisio er mwyn darparu gwasanaethau ychwanegol i fusnesau lleol yw Ardaloedd Gwella Busnes (AGB).
Ardal lle codir ardoll ar holl dalwyr ardrethi busnes yn ychwanegol at y bil ardrethi busnes yw AGB. Defnyddir yr ardoll i ddatblygu prosiectau a fydd o fantais i fusnesau yn yr ardal leol.
Sut i wneud taliad AGB
Gallwch wneud taliad AGB ar-lein os oes gennych chi eich rhif cyfeirnod.
Gwneud taliad AGB ar-lein
Pwy all sefydlu AGB?
Gall AGB gael ei sefydlu gan yr awdurdod lleol, gan dalwr ardrethi busnes neu gan unigolyn neu gwmni sydd â’r pwrpas o ddatblygu’r ardal AGB, neu sydd â buddiant yn deillio o dir yn yr ardal.
Mae angen i gynigydd yr AGB gyflwyno cynnig ynghyd â chynllun busnes i’r awdurdod lleol.
Y Broses Bleidleisio
Mae busnesau sy'n ddarostyngedig i’r ardoll yn cymryd rhan mewn pleidlais. Y bleidlais hon sydd yn penderfynu a fydd y cynllun yn mynd yn ei flaen. Gofynnir i fusnesau a ydynt o blaid neu yn erbyn creu Ardal Gwella Busnes o fewn ardal ddaearyddol benodol.
Bydd pob busnes sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais hon yn cael un bleidlais am bob eiddo a feddiannir ganddynt neu – os nad ydynt yn eu meddiannu – y maent yn berchen arnynt yn ardal ddaearyddol yr AGB arfaethedig. Er mwyn i bleidlais AGB fod yn llwyddiannus, rhaid cael mwyafrif o blith y pleidleiswyr sydd o blaid y cynnig, a rhaid i’r rheiny sy’n pleidleisio o blaid gynrychioli mwyafrif gwerth ardrethol cyfanredol yr hereditamentau sy’n pleidleisio.
Unwaith y bydd yr AGB yn weithredol, codir yr ardoll ar bob busnes o fewn yr ardal AGB (ni waeth os neu sut y gwnaeth y busnes hwnnw bleidleisio).
Pwy sy'n rheoli'r broses AGB?
Awdurdodau lleol sy’n rheoli’r broses bleidleisio. Fodd bynnag, os ydym yn credu fod trefniadau’r Ardal Gwella Busnes yn debygol o wrthdaro i raddau helaeth â pholisi presennol, yn gosod baich ariannol ar dalwyr ardrethi neu fod baich yr ardoll yn annheg, gallwn benderfynu rhoi feto ar y cynigion.