Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer Datblygu’r Eiddo Masnachol hwn trwy gymhorthdal, fel y diffinir o dan Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau (2022).
Fel amod o dderbyn y cymorth ariannol hwn, mae’n rhaid i bob ymgeisydd gadarnhau eu bod nhw’n gallu derbyn y cymhorthdal o dan yr eithriad Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA). Mae’r trothwy MFA yn uchafswm o £315,000, a gronnir dros y flwyddyn ariannol hon a’r ddwy flynedd ariannol flaenorol, fel y nodir yn adran 36(1) Deddf Rheoli Cymorthdaliadau (2022), a fyddai’n cynnwys y Grant Datblygu Eiddo Masnachol hwn.