Iechyd a diogelwch i fusnesau: Archwiliad
Mae’r cyflogwr yn gyfrifol am reoli iechyd a diogelwch yn y gweithle. Mae ein swyddogion iechyd amgylcheddol yn archwilio nifer o weithleoedd i wirio eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
Mae’r swyddogion yn cadw cofnod o’r holl fusnesau unwaith y bydd archwiliad neu arolygiad wedi'i gynnal a'i gwblhau, bydd yr adeiladau yn derbyn graddfa risg gan ystyried y canlynol:
Perfformiad Diogelwch
Mae graddfa rhif o un (ardderchog) i chwech (annerbyniol) sy’n nodi penderfyniad yr archwiliwr o lefel gydymffurfio risgiau diogelwch yn y gweithle. Mae’n rhaid i hyn gael ei bennu yn ôl adolygiad raddfa lawn o'r holl ganfyddiadau a wnaed mewn archwiliad neu ymyrraeth arwyddocaol arall (y gall peiriant, gweithgaredd neu ddull gwaith ayyb achosi niwed).
Perfformiad Iechyd
Mae perfformiad iechyd yn cael ei raddio o un (ardderchog) i chwech (annerbyniol), i nodi penderfyniad yr archwiliwr o lefel gydymffurfio cyffredinol mewn perthynas â risgiau iechyd yn y gweithle. Mae hyn yn cael ei bennu yn ôl adolygiad graddfa lawn o’r holl ganfyddiadau a wnaed mewn archwiliad neu ymyrraeth arwyddocaol. Mae hyn yn berthnasol i weithwyr cyflogedig a’r rhai sy’n cael eu heffeithio, neu fod modd iddo effeithio arnynt, oherwydd gweithgareddau gwaith e.e. aelodau o'r cyhoedd.
Darpariaeth Lles
Mae'n cael ei raddio o un (cydymffurfio) i bedwar (diffyg cydymffurfio yn llwyr), i nodi penderfyniad yr archwiliwr o lefel safonau lles cyffredinol yn y gweithle ar sail adolygiad o’r holl ganfyddiadau o archwiliad neu ymyrraeth arwyddocaol arall.
Ymddiried yn y rheolwyr
Mae ymddiried yn y rheolwyr yn derbyn graddfa o un (arferion gorau) i chwech (Rheolaeth yn arddangos ymwybyddiaeth wael o iechyd a diogelwch), i nodi lefel ymddiriedaeth yr archwiliwr yng ngallu’r rheolwyr i gynnal neu gyrraedd lefel isel o risg iechyd a diogelwch, yn y gweithle neu mewn perthynas â gweithgareddau gwaith, yn y dyfodol agos. Mae hyn yn berthnasol i weithwyr cyflogedig a’r rhai sy’n cael eu heffeithio, neu fod modd iddo effeithio arnynt, oherwydd gweithgareddau gwaith e.e. aelodau o'r cyhoedd.
System raddio
Mae’r system raddio yn categoreiddio adeiladau yn ôl lefelau risg, sy'n penderfynu pa mor aml y byddant yn cael eu harchwilio.
Dim ond adeiladau sy'n derbyn graddfa o risg categori A fydd yn derbyn archwiliadau iechyd a diogelwch llawn, bydd busnesau eraill yn derbyn ymyrraeth ar sail prosiect.
System raddio archwiliadau
Sgôr | Categori | Risg |
5 neu 6 yn unrhyw risg |
A |
Uchel |
4 yn unrhyw risg |
B1 |
Canolig |
3 yn unrhyw risg |
B2 |
Canolig |
Dim sgôr uwch na 2 |
C |
Isel |