Iechyd a diogelwch i fusnesau - Cymorth cyntaf
Os ydi person yn y gweithle’n cael anaf, mae’n bwysig eu bod yn derbyn sylw’n syth bin. Mae cymorth cyntaf yn y gweithle yn cynnwys y trefniadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Beth sydd ei angen arnaf?
Ar y lleiaf, mae arnoch chi angen blwch cymorth cyntaf â’r nwyddau angenrheidiol a pherson wedi ei benodi i ofalu am roi cymorth cyntaf.
Y Blwch Cymorth Cyntaf
Lle nad oes risg penodol yn eich gweithle, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn awgrymu y dylech chi fod â’r canlynol yn eich blwch cymorth cyntaf;
- Canllaw defnyddwyr
- 20 gorchudd adlynol di-haint wedi eu lapio’n unigol
- 2 bad llygad di-haint
- 4 rhwymyn triongl wedi eu lapio’n unigol
- 6 phin cau
- 6 gorchudd anaf maint canolig di-haint anfeddyginiaethol wedi eu lapio’n unigol
- 2 orchudd anaf mawr di-haint anfeddyginiaethol wedi eu lapio’n unigol
- Pâr o fenig tafladwy
Taflenni cymorth cyntaf
Fe allwch chi fynd i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (gwefan allanol) a lawrlwytho taflenni cymorth cyntaf sy’n cynnwys cyngor ar gymorth cyntaf yn y gweithle.