Coronafeirws: Cymorth brys i fusnesau
Gwybodaeth ar gymorth brys i fusnesau yn sgil y Coronafeirws.
Cynllun Benthyg Adfer
Mae'r Cynllun Benthyg Adfer yn cefnogi mynediad at gyllid i fusnesau'r DU wrth iddynt dyfu ac adfer o ganlyniad i darfu ar bandemig COVID-19.
Mwy am y Cynllun Benthyg Adfer (gwefan allanol)
Gohirio taliadau Hunanasesiad
Fel un o fesurau cymorth y llywodraeth yn sgil coronafeirws (COVID-19), cafodd trethdalwyr Hunanasesiad yr opsiwn o ohirio’u taliad ar gyfrif ar gyfer mis Gorffennaf 2020 tan 31 Ionawr 2021.
Mwy o wybodaeth am y Linell Gymorth Coronafeirws (gwefan allanol)
Yswiriant
Dylai busnesau sydd â sicrwydd yswiriant dros bandemigau a gorchymyn gan y Llywodraeth i gau fod wedi’u cynnwys, gan fod y Llywodraeth a’r diwydiant yswiriant wedi cadarnhau ar 17 Mawrth 2020 fod cyngor i osgoi tafarndai, theatrau ac ati yn rheswm digonol i wneud hawliad.
Mae polisïau yswiriant yn amrywio’n fawr, felly anogir busnesau i wirio telerau ac amodau eu polisi penodol a chysylltu â’u darparwyr. Mae’n debygol na fydd y mwyafrif o fusnesau wedi’u cynnwys, gan fod polisïau yswiriant ymyrraeth i fusnes safonol yn ddibynnol ar ddifrod i eiddo ac yn eithrio pandemigau.