Crynodeb adfywio tref Prestatyn

Mae’r dudalen yn darparu gwybodaeth am brosiectau sydd wedi cael eu cynllunio ar gyfer Prestatyn yn ogystal â phrosiectau sydd wedi cael eu cwblhau yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae hefyd yn cynnwys prosiectau adnewyddu sylweddol mewn ardaloedd cyfagos sy’n gallu cael effaith ar y dref.

Cyflwyniad i Brestatyn

Mae Prestatyn yn dref glan y môr sy’n boblogaidd ymysg twristiaid, ac mae’n adnabyddus am ei thraethau a pharciau gwyliau i deuluoedd. 

Amcangyfrifir bod y boblogaeth breswylwyr ar gyfer yr ardal yn oddeutu 18,000 o bobl. 

Yn gyflym iawn, mae Prestatyn wedi dod yn brif ganolfan manwerthu ar gyfer Sir Ddinbych gyda nifer cynyddol o frandiau manwerthu’r stryd fawr yn adleoli i neu yng nghyffiniau ‘Parc Prestatyn’.

Mae gan y dref hefyd yr ail Ganol Tref fwyaf yn Sir Ddinbych yn nhermau unedau manwerthu, gyda’i stryd fawr brysur o fusnesau annibynnol yn agos at y parc siopa. 

Prosiectau adfywio

Dewiswch un o’r canlynol i ddarganfod mwy am y prosiectau adfywio ar gyfer Prestatyn.

Prosiectau wedi’u cwblhau

Prosiectau adfywio Prestatyn wedi’u cwblhau

Mae’r canlynol yn brosiectau adfywio sydd wedi cael eu cwblhau ym Mhrestatyn ers 2018


Darpariaeth Dechrau'n Deg Ysgol Penmorfa

Trosolwg o’r prosiect: Roedd y prosiect hwn yn caniatáu estyniad bach ac ailwampio cyfleuster presennol i ddarparu gallu ychwanegol yn yr ysgol i ddarparu gofal plant.

Cyllid: Grant Cyfalaf Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.


Caradoc Road, Prestatyn

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu fflatiau Passivhaus ar safle hen ffreutur yr ysgol a gwaith galluogi ar gyfer datblygu’r ail gam.

Cyllid: £1,200,000 – Cyfrif Refeniw Tai Cyngor Sir Ddinbych a Grant Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.


Llys Llên, Ffordd Llys Nant, Prestatyn

Trosolwg o’r prosiect: Ailddatblygu hen safle’r llyfrgell i ddarparu fflatiau ac unedau masnachol.

Cyllid: £3,500,000 – Cyfrif Refeniw Tai Cyngor Sir Ddinbych a Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.


Ffordd Penisardre

Trosolwg o’r prosiect: Gwelliannau i groesfan i gerddwyr heb ei reoli a chyflwyno cyffordd wedi’i chodi.

Cyllid: Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Prosiectau presennol

Prosiectau adfywio presennol ym Mhrestatyn

Mae’r prosiectau canlynol wedi sicrhau cyllid ac un ai’n cael eu hadeiladu neu’n cael eu datblygu yn barod i’w hadeiladu.>/p>


Buddsoddiad mewn Llifogydd Arfordirol yn y Rhyl / Prestatyn

Trosolwg o’r prosiect: Gwelliannau i amddiffynfeydd llifogydd arfordirol.

Cyllid: Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.

Gwerth y prosiect: £63,000,000


Gwelliannau i’r Parth Cyhoeddus yn Bastion Road

Trosolwg o’r prosiect: Gwelliannau i ardal yng nghefn Arcêd Waves.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Gwerth y prosiect: £100,000

Terfynau amser: Rhagfyr 2024


Dawson Crescent, Prestatyn

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu annedd ar safle mewnlenwi.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £300,000


The Dell, Prestatyn

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu fflatiau ar safle mewnlenwi.

Cyllid: Y Cyfrif Refeniw Tai a Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Gwerth y prosiect: £3,000,000


Parth Cyhoeddus a Gwyrddu Prestatyn

Trosolwg o’r prosiect: Uwchraddio’r parth cyhoeddus, yn cynnwys ychwanegu mwy o wyrddni yn naturiol ar Stryd Fawr Prestatyn.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro y DU.

Gwerth y prosiect: £3,875,000

Terfynau amser: Mawrth 2026


Taith Gerdded Natur wedi’i Ailbwrpasu Prestatyn

Trosolwg o’r prosiect: Creu mynediad di draffig at yr hen reilffordd, yn cynnwys uwchraddio Ffordd Dyserth a gwella’r hygyrchedd ym Morfa.

Cyllid: Cronfa Ffyniant Bro y DU.

Gwerth y prosiect: £350,000

Terfynau amser: Mawrth 2026


Cynllun Teithio Llesol Ffordd Llys Nant

Trosolwg o’r prosiect: Cynllun Teithio Llesol ar hyd Ffordd Llys Nant. Mae’r prosiect ar y cam dylunio amlinellol ar hyn o bryd.

Cyllid: Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Terfynau amser: 31 Mawrth 2027


Cynllun Teithio Llesol Ffordd y Bont

Trosolwg o’r prosiect: Cynllun Teithio Llesol ar hyd Ffordd y Bont.

Cyllid: Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Terfynau amser: 31 Mawrth 2028

Prosiectau’r dyfodol

Prosiectau adfywio Prestatyn ar gyfer y dyfodol

Dydi’r prosiectau canlynol heb sicrhau cyllid eto ond mae rhywfaint o waith dichonoldeb, briff y prosiect a’r dyluniad cysyniadol wedi cael ei wneud.


Ysgol Clawdd Offa - Gofal Plant

Trosolwg o’r prosiect: Cynnig i ddarparu cyfleuster newydd ar gyfer darpariaeth gofal plant yn Ysgol Clawdd Offa ym Mhrestatyn. Mae cyllid wedi’i ddyfarnu ar gyfer gwaith dichonoldeb a chostau rheoli’r prosiect.

Gwasanaeth: Gwasanaethau Addysg a Phlant.


Marine Road, Prestatyn

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu cartrefi newydd ar safle hen ysgol gynradd Bodnant.

Gwasanaeth: Tai a Chymunedau.


Ffordd Tŷ Newydd, Meliden

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu cartrefi newydd ar safle hen dai "REEMA".

Gwasanaeth: Tai a Chymunedau.


Datblygiadau Teithio Llesol

Trosolwg o’r prosiect: Datblygu llwybrau yn cynnwys Rhodfa Brenin (dylunio ac ymgysylltu).

Gwasanaeth: Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad.


Ysgol y Llys - Gofal Plant

Trosolwg o’r prosiect: Cynnig i wella’r cyfleusterau yn Ysgol y Llys i gynnal darpariaeth Meithrin. Mae cyllid wedi’i ddyfarnu ar gyfer gwaith dichonoldeb a chostau rheoli’r prosiect.

Gwasanaeth: Gwasanaethau Addysg a Phlant.


Traeth Barkby, yn cynnwys Llithrfa Gychod a Mynediad i’r Anabl

Trosolwg o’r prosiect: Bydd gwaith dichonoldeb pellach yn cael ei wneud eleni.

Syniadau Prosiect

Syniadau ar gyfer prosiect adfywio Prestatyn

Syniad Prosiect yw awgrym ar y cam hwn heb unrhyw friff prosiect diffiniedig a lle nad oes unrhyw waith dichonoldeb wedi’i wneud.


Gwelliannau i’r Ffrith Prestatyn

Trosolwg o’r prosiect: O restr hir y Grŵp Ardal Aelodau ar gyfer ymgynghoriad Cronfa Ffyniant Bro.


Llyfrgell / Amgueddfa

Trosolwg o’r prosiect: O restr hir y Grŵp Ardal Aelodau ar gyfer ymgynghoriad Cronfa Ffyniant Bro.


Arwyddion a dehongliad ar gyfer dathlu pen-blwydd Clawdd Offa yn 50 oed

Trosolwg o’r prosiect: O restr hir y Grŵp Ardal Aelodau ar gyfer ymgynghoriad Cronfa Ffyniant Bro.


Offer chwarae i’r anabl ym Mhrestatyn a Gallt Melyd

Trosolwg o’r prosiect: O restr hir y Grŵp Ardal Aelodau ar gyfer ymgynghoriad Cronfa Ffyniant Bro.


Tir yng nghefn 51-81 Central Avenue, Prestatyn

Trosolwg o’r prosiect: Adeiladu cartrefi newydd ar safle mewnlenwi.


Clwb Ieuenctid, Dawson Drive, Prestatyn

Trosolwg o’r prosiect: Disodli’r cyfleuster presennol.

Dyddiad adolygu diwethaf

Cafodd yr wybodaeth hon ei diweddaru diwethaf ym mis Tachwedd 2024.