Trawsnewid Adeiladau'r Frenhines yn ased cymunedol bywiog
Mae Marchnad y Frenhines wedi bod yn rhan allweddol o dref y Rhyl ers 1902. Gan ddarparu amrywiaeth o ddibenion, o lawr sglefrio dan do, perfformiadau theatr a chyfleoedd manwerthu, mae gan yr adeilad statws personol a fydd yn cael ei ymestyn ymhellach drwy ailddatblygu'r safle.
Ym mis Mawrth 2019, caffaeledd Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) nifer o adeiladau cyfagos yng nghanol tref y Rhyl, sy'n wynebu'r promenâd glan y môr, a elwir gyda'i gilydd yn Adeiladau'r Frenhines.
Roedd yr adeiladau a elwid unwaith yng Ngwesty'r Savoy mewn cyflwr adfeiliedig, a’r lloriau uchaf ddim yn cael eu defnyddio (mae'r adeiladau ar lan y môr yn bedwar llawr) a gwagleoedd sylweddol ar y llawr gwaelod.
Rydym wedi datblygu cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailddatblygiad defnydd cymysg y safle. Bydd ailddatblygu'r safle hwn nid yn unig yn cael gwared ar ddolur llygad sylweddol, bydd hefyd yn gweithredu fel cysylltydd allweddol, ac yn rhoi gwell hygyrchedd a symudiad rhwng glan y môr a chanol y dref. Mae wedi’i ddisgrifio fel prosiect catalydd allweddol yn adfywiad a llwyddiant economaidd canol tref y Rhyl i'r dyfodol.
Elfennau allweddol cam cyntaf y prosiect yw:
- Mae’r datblygiad yn cynnwys 16 uned bwyd a manwerthu unigol, bar dwy ochr, gofod digwyddiadau hyblyg mawr, a gofod awyr agored ar gyfer cynnal digwyddiadau, marchnadoedd neu rywle i eistedd
- Datblygu gofod hyblyg a allai ddarparu ar gyfer ystod o ddigwyddiadau gan gynnwys marchnadoedd arbenigol, arddangosfeydd, cerddoriaeth a pherfformiadau theatrig a ffilm
Adeiladau'r Frenhines: Cerrig milltir y prosiect
Cerrig Milltir | Cwblhawyd / Rhagolygon |
Caffael adeiladau'r Frenhines |
Mawrth 2019 |
Adnewyddu Maes Parcio Tanddaearol y Rhyl |
Ebrill 2019 |
Cyflwyno Hysbyseb Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw ar gyfer dymchwel |
Awst 2020 |
Sesiwn Friffio'r Cabinet |
Medi 2020 |
Grŵp Buddsoddiad Strategol |
Medi 2020 |
Diweddariad Aelodau'r Rhyl |
Medi 2020 |
Cabinet |
Medi 2020 |
Grŵp Rheoli Asedau |
Medi 2020 |
Sicrhau caniatâd i ddymchwel |
Medi 2020 |
Dechrau'r broses/ymgynghoriad Cyn Cais Cynllunio |
Medi 2020 |
Cyflwyno cais cynllunio |
Ionawr 2021 |
Dechrau'r gwaith dymchwel a gwaredu asbestos |
Ionawr 2021 |
Dechrau'r broses o ddewis prif gontractwr |
Mai 2021 |
Penodi prif gontractwr ar gyfer y gwaith adeiladu |
Awst 2021 |
Sicrhau caniatâd cynllunio |
Medi 2021 |
Cwblhau'r gwaith dymchwel |
Ionawr 2022 |
Dechrau Cam 1 o'r gwaith adeiladu |
Awst 2022 |
Cwblhau Cam 1 o'r gwaith adeiladu |
Rhagfyr 2023 |
Cwblhau gwaith gosod a phrofion gweithredol |
I’w gadarnhau |
Agor y Neuadd Farchnad/Gofod Digwyddiadau am fusnes |
I’w gadarnhau |