Adfywio'r Rhyl: Gwelliannau i'r ysgol
Mae Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru trwy’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi buddsoddi dros £47m i drawsnewid addysgu a dysgu ar gyfer disgyblion oedran uwchradd yn y dref.
Roedd yr angen i newid y ffordd y mae addysg yn cael ei gyflenwi yn y dref yn flaenoriaeth allweddol gydag addysgu mewn dwy ysgol uwchradd yn y dref yn cael eu cynnal mewn adeiladau o gyflwr gwael yn gyffredinol.
Ysgol Uwchradd y Rhyl
Cwblhawyd cynllun ailddatblygu Ysgolion Uwchradd y Rhyl (gwerth £24 miliwn) yn 2016.
Yn 2013 cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych gynlluniau i greu cyfleuster o’r radd flaenaf a fyddai’n golygu rhoi’r dechrau gorau posib i blant a phobl ifanc mewn sefydliad modern. Derbyniwyd cyllid gan y cyngor a Llywodraeth Cymru i godi adeilad tri llawr ar gyfer 1200 o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Y Rhyl gan ddechrau’r gwaith yn hydref 2014. Dyluniwyd yr adeilad hefyd i ddarparu canolfan i 45 o ddisgyblion ysgol gymunedol arbennig Ysgol Tir Morfa gerllaw.
Mae'r adeilad newydd yn cynnwys nodweddion cynaliadwy i gyflawni costau gweithredu isel dros gylch oes yr ysgol, ac ar yr un pryd yn lleihau allyriadau carbon trwy ddefnyddio biomas ar gyfer twymo'r adeilad ac adnodd ffotofoltaidd ar y to. Mae’r dyluniad gyda’r nod o gyflawni graddfa ‘Rhagorol’ BREEAM. Mae cyfleusterau awyr agored yn cynnwys ardaloedd cymdeithasol wedi'u tirlunio gydag arwynebau caled a meddal, ardaloedd i ddysgu yn yr awyr agored, ardal gemau aml-ddefnydd, cae chwarae pob tywydd a chaeau glaswellt ar gyfer gemau yn yr haf a'r gaeaf.
Crist y Gair
Sefydlwyd dull newydd o ddysgu drwy agor yr Ysgol Gatholig Crist y Gair newydd yn 2019.
Gwelodd brosiect gwerth £23 miliwn cyn Ysgol Gynradd Gatholig Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig Bendigaid Edward Jones yn y Rhyl yn cael eu newid gyda dull gwbl newydd o addysgu a fyddai’n gweld disgyblion yn ymuno ag Ysgol Christ y Gair yn dair oed ac o bosib yn aros yn yr un ysgol tan yn 16 oed gan gwblhau eu taith addysgol yn yr un amgylchedd.
Ariannwyd yr ysgol newydd ar gyfer Esgobaeth Wrecsam mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru trwy ei Raglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Mae Crist y Gair yn ysgol ffydd cyfrwng Saesneg sy’n cynnig darpariaeth cyn ysgol trwy gynnig gofal plant ymrwymedig, addysg gynradd i 420 o ddisgyblion llawn amser a 60 o ddisgyblion rhan amser 3-11 oed ac yna 500 o ddisgyblion 11-16 oed mewn darpariaeth uwchradd.
Y gyrrwr am newid yn y lle cyntaf oedd yr angen i wella cyfleusterau addysgu a dysgu yn y ddwy ysgol a datblygu’r dull addysg ‘trwy gydol’ sydd wedi galluogi medru rhannu cyfleusterau rhwng y grwpiau oedran a chydweithio agosach rhwng cyfnodau o fewn yr ysgol.
Mae’r cyfleuster deulawr a adeiladwyd rhwng y ddau hen ysgol yn cynnwys capel sy’n ganolog i’r datblygiad a neuadd chwaraeon pedwar cwrt, prif neuadd, neuadd fechan, stiwdio drama a chae pob tywydd yn ogystal ag ystafelloedd dosbarth arbenigol ar gyfer cerddoriaeth, dylunio technoleg, gwyddoniaeth a mwy.