Adfywio'r Rhyl: Hen adeilad Costigans
Cyflwyno gofod cydweithredu newydd ar gyfer mentrau newydd yn hen adeilad Costigans
Mae'r gwaith i ailddatblygu'r adeilad lled-ddiffaith "Costigan's" gyferbyn â'r Orsaf Drenau a dod ag ef yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol wedi'i gwblhau.
Defnyddiodd Cyngor Sir Ddinbych £312,000 o gyllid a gafwyd trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru i greu’r swyddfeydd ar Stryd Bodfor, y Rhyl.
Mae lle hyblyg wedi cael ei greu gyda gofod i gynnal digwyddiadau a siop goffi ar y safle.
Bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn darparu gofod modern o ansawdd uchel i fusnesau, gyda chysylltiad band eang cyflym iawn, yn addas ar gyfer cenhedlaeth newydd o fusnesau bychain, i’w hannog i sefydlu a defnyddio canol y dref fel eu canolfan.
Mae’r arbenigwyr dechrau busnes newydd a chydweithio, TownSq, wedi cael eu dewis gan Gyngor Sir Ddinbych i reoli’r adeilad, cefnogi busnesau a chreu swyddi gwell o ansawdd uchel yng nghanol y dref.
I ddarganfod mwy ac archebu taith o amgylch yr adeilad, ymwelwch â Gwefan Costigan's (gwefan allanol).