Drysau'n agor Yng nghanolfan Ieuenctid newydd y Rhyl
Agorwyd Canolfan Ieuenctid newydd y Rhyl yn swyddogol ym mis Mawrth 2023.
Mae'r ganolfan yn adnodd gwerthfawr a fydd yn caniatáu'r Cyngor i gefnogi ac ymgysylltu â'n pobl ifanc mewn ardal sydd â lefel uchel o eithrio cymdeithasol ac amddifadedd cymdeithasol.
Dechreuodd y gwaith ar y prosiect ym mis Mehefin 2022 ac mae’r ganolfan yn agored erbyn hyn i wasanaethu ac i gefnogi ieuenctid 11-25 oed yr ardal. Galluogwyd y prosiect £217,000 hwn drwy arian o gais am gyllid Cam 1 o Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ar gyfer ariannu’r cyfalaf adeiladu, a buddsoddiad ychwanegol drwy gyllid craidd y Gwasanaeth Ieuenctid i dalu am gostau’r gosodiadau mewnol a’r adnoddau.
Mae’r Ganolfan Ieuenctid wedi’i lleoli yn hen gaffi East Parade Café’r dref, adeilad fu’n wag ers 2015 cyn ei ail-ddatblygu. Bydd yr eiddo newydd yn darparu adeilad modern, pwrpasol ar gyfer Y Rhyl a Gogledd Sir Ddinbych, fydd yn galluogi’r Cyngor i gynyddu mynediad i weithgareddau gwaith ieuenctid, ymyriadau gwaith ieuenctid arbennig, cyngor, arweiniad a gwybodaeth, a mynediad at asiantaethau partner.
Agwedd bositif arall i’r prosiect yw fod rhai o bobl ifanc yr ardal wedi chwarae rhan ynddo’n barod drwy rannu eu syniadau ynghylch y ganolfan hyd yn oed cyn i’r drysau agor.
Bydd Canolfan Ieuenctid y Rhyl yn caniatáu mwy o gyfleoedd drwy drefniadau partneriaeth ar gyfer pobl ifanc i roi cynnig ar sgiliau newydd ac o bosibl gynyddu faint o weithgareddau cadarnhaol y gall pobl ifanc gymryd rhan ynddynt. Bydd y partneriaethau hyn yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl ifanc a chyfle i hyrwyddo cyflawniadau pobl ifanc.
Bydd cyfleoedd yn y ganolfan yn cynnwys sesiynau Gwasanaeth Ieuenctid Mynediad Agored gan gynnwys darpariaeth Gymraeg dan arweiniad Urdd Gobaith Cymru, gwaith ieuenctid ymyrraeth wedi'i dargedu a grŵp rhieni ifanc, sesiynau a gwasanaethau a gynlluniwyd i ddarparu ar gyfer anghenion pobl ifanc yr ardal, o ddarpariaeth un i un i sesiynau a gweithgareddau ar gyfer grwpiau mwy. Bydd y ganolfan hefyd yn cefnogi adrannau a phartneriaid eraill gan gynnwys gwasanaethau Addysg a Chymdeithasol er mwyn ennyn diddordeb pobl ifanc mewn amgylchedd y maen nhw'n gyfforddus ynddi.
Mae cymaint o agweddau sy’n dylanwadu ac yn effeithio ar fywydau pobl ifanc heddiw, ac mae cefnogaeth ar gael i helpu i fynd i’r afael â’r materion sy’n achosi pryder iddynt, ond mae cael y gefnogaeth sydd ar gael i’r rhai hynny sydd ei angen yn parhau i fod yn broblemus weithiau. Bydd y ganolfan hon yn galluogi’r Gwasanaeth Ieuenctid i gyfarfod ei ofynion statudol yn ogystal â’i alluogi i ddarparu gwaith ieuenctid yn unol â’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru drwy ddarparu gofod diogel gyda mynediad gwirfoddol i bobl ifanc, sydd yn weladwy iawn i bobl ifanc a’u teuluoedd iddynt wybod ble i fynd am gymorth.
Cafodd Canolfan Ieuenctid newydd y Rhyl ei hagor yn swyddogol gan y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych.