Mae ein profiad o fynd i ganol dref a mynd o'i chwmpas yn chwarae rhan fawr yn ein parodrwydd i'w defnyddio.
Mae'r rhan fwyaf o bobl bellach yn mynd i'r Rhyl ar yr A55 a'r A525, gan ddod i mewn i ganol y dref o'r de dros y llinell reilffordd, cyn mynd drwy gyfres o gyffyrdd â goleuadau traffig.
Nid yw'r system draffig bresennol yn ymdopi'n dda â hyn gan iddi gael ei hadeiladu i ddarparu ar gyfer llif traffig trwm o'r dwyrain i'r gorllewin, ar adeg pan oedd Ffordd Arfordirol yr A548 yn brif fynediad i'r Rhyl.
Mae'r system un ffordd gymharol gymhleth yn gwneud llwybrau i barcio ac i lan y môr yn gylchedig. Mae ymwelwyr yn aml yn cwyno am y diffyg arwyddion clir. I fynd i'r afael â hyn, rydym am wneud y canlynol:
- Nodi trefniadau gwell ar gyfer llif traffig cyffredinol i gael mynediad at ganol y dref
- Ystyried agor o leiaf rhywfaint o'r Stryd Fawr i draffig sy'n symud tua'r gogledd
- Gwella cysylltedd i gerddwyr a beicwyr rhwng glan y môr a chanol y dref
- Ailgynllunio'r ardal o briffordd yn llwyr rhwng canol y dref a glan y môr, gan symleiddio'r cynllun presennol ac ailddyrannu gofod y ffordd i gerddwyr a beicwyr
- Gwella arwyddion cyfeiriadol a darpariaeth o ran parcio o amgylch canol y dref yn dilyn newidiadau i lif traffig