Mae'r lluniau isod yn ddelweddau a grëwyd yn ystod camau cynnar y dylunio er mwyn helpu i ddeall sut y gallai'r dewis a ffefrir ar gyfer y cynllun edrych. Mae dyluniad y cynllun yn parhau ac nid yw'r delweddau o reidrwydd yn cynrychioli'r cynllun terfynol.
![Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Y Rhyl: Delwedd 1](/cy/delweddau/cymunedau-a-byw/amddiffyn-yr-arfordir/canol-y-rhyl/galeri/1.jpg)
Golygfa o'r wal gynnal arfaethedig a'r promenâd yn edrych i gyfeiriad y gorllewin o'r SeaQuarium. Bydd ramp mynediad newydd i'r traeth.
![Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Y Rhyl: Delwedd 2](/cy/delweddau/cymunedau-a-byw/amddiffyn-yr-arfordir/canol-y-rhyl/galeri/2.jpg)
Golygfa o'r fynedfa arfaethedig o'r stryd fawr i'r traeth. Gellir gweld y ramp mynediad newydd arfaethedig a'r grisiau i'r traeth.
![Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Y Rhyl: Delwedd 3](/cy/delweddau/cymunedau-a-byw/amddiffyn-yr-arfordir/canol-y-rhyl/galeri/3.jpg)
Cymhariaeth o'r olygfa bresennol/arfaethedig o'r promenâd lletach a'r wal gynnal arfaethedig yn edrych i gyfeiriad y gorllewin heibio Pentref y Plant.
![Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Y Rhyl: Delwedd 4](/cy/delweddau/cymunedau-a-byw/amddiffyn-yr-arfordir/canol-y-rhyl/galeri/4.jpg)
Cerrig i atal erydu yn Splash Point a allai ddod i'r golwg os bydd tueddiadau gostwng presennol y traeth yn parhau. Bydd mynediad at y traeth yn cael ei gynnal drwy lwybrau drwy'r cerrig. Bydd lefelau tywod yn cael eu monitro.
![Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol Y Rhyl: Delwedd 5](/cy/delweddau/cymunedau-a-byw/amddiffyn-yr-arfordir/canol-y-rhyl/galeri/5.jpg)
Golygfa o'r promenâd wedi'i ledu wrth edrych i'r dwyrain heibio SC2.