Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cefnogi Busnesau Lleol
Arweinydd y Prosiect: Cadwyn Clwyd
Trosolwg o’r prosiect
Nod y prosiect hwn yw rhoi hwb i gynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu’r sector preifat, yn enwedig mewn ardaloedd lle maent ar ei hôl hi.
Bydd yn cefnogi dau faes cyflawni sef:
- Grantiau busnes i fusnesau micro a bychan unigol - bydd y ffrwd hon yn darparu grantiau uniongyrchol i fusnesau yn y sir.
- Cronfa allweddol ‘Rhwydweithiau Busnes’ - Bydd y ffrwd hon yn hwyluso ac yn cefnogi busnesau lleol a mentrau cymdeithasol i gydweithio ar ddatblygu mentrau sydd er budd y busnesau a’r economi leol
Diweddariad y prosiect
Mawrth 2024
Gwnaed cynnydd mawr at gyrraedd cerrig milltir allweddol ers cychwyn y cynllun grantiau, yn enwedig felly o safbwynt trefnu prosiectau a meithrin cyswllt. Cwblhawyd amryw dasgau’n llwyddiannus, gan gynnwys trosglwyddo staff i’r drefn newydd, penodi Swyddog Cefnogi Prosiect, sefydlu Panel y Prosiect a chymeradwyo ei Gylch Gorchwyl a datblygu gweithgareddau marchnata ac ymgysylltu. Mae penodi gwerthuswr a dechrau’r cynllun gwerthuso wedi bod o fudd wrth sicrhau atebolrwydd, ac mae’r cwestiynau gwerthuso bellach wedi’u cynnwys yn y cam hawlio.
Mae gweithgareddau ymgysylltu fel digwyddiadau rhwydweithio a sesiynau galw heibio’n effeithiol wrth hybu ymwybyddiaeth o’r prosiect a chyfranogiad ohono, sydd wedi gosod sylfaen cadarn inni ddal ati tan ddiwedd y cyfnod cyllido.
Mae cefnogi ceiswyr grantiau’n dal yn flaenoriaeth, gan gynnwys prosesu hawliadau’n llwyddiannus, eu hasesu a’u cymeradwyo. Hyd yn hyn, mae mwy na chant ac ugain o fusnesau wedi mynd ati i lunio ceisiadau a mwy na 88% o’r rheiny wedi cyflwyno ceisiadau llawn. Mae’r panel grantiau wedi dyfarnu cyllid i dri ar hugain o fusnesau a bydd deg arall dan ystyriaeth ar 27 Chwefror; mae ceisiadau eisoes ar y gweill i’w penderfynu yn y dyfodol hefyd.
Mae’r elfen o gydweithio rhwng busnesau yn dod ymlaen yn dda hefyd gyda dau brosiect ar waith, sef Cydweithredfa Stad Ddiwydiannol Colomendy a phrosiect Sgwâr y Dref, ac eraill ar y gweill.