Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Swyddog Meysydd Chwarae a Thîm Cynnal a Chadw/Arolygu
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych
Trosolwg o’r prosiect
Nod y prosiect hwn yn y lle cyntaf fydd ceisio mynd i’r afael â’r materion uniongyrchol sy’n gysylltiedig â datblygu cynnig chwaraeon cynhwysol, gyda’r nod o ddarparu cyfleusterau i safon dderbyniol a diogel.
Bydd y prosiect hefyd yn recriwtio Swyddog Meysydd Chwaraeon a Thîm Cynnal a Chadw i oruchwylio’r defnydd, gwaith cynnal a chadw ac archebion meysydd chwarae ar draws y sir.
Diweddariad y prosiect
Mawrth 2024
Prosiect i ddarparu adnodd mewnol ar gyfer rheoli a gwella meysydd chwaraeon yn Sir Ddinbych oedd hwn yn wreiddiol. Yn anffodus, oherwydd oedi wrth recriwtio staff, ni fu modd gweithredu’r prosiect yn 2023/24. Penderfynwyd peidio â recriwtio staff yn uniongyrchol oherwydd y sgiliau a gwybodaeth arbenigol oedd yn ofynnol, ac y byddai’r Cyngor yn cael gwell gwerth am arian drwy gomisiynu contractwyr arbenigol i weithredu’r prosiectau y bwriedir eu cyflawni â’r cyllid hwn.
Cafwyd sêl bendith i droi’r cyllid yn gyfalaf a gobeithiwn wario hwn ar adnewyddu’r Llecyn Gemau Amlddefnydd ar Rodfa Rhydwyn a rhoi ffensys o amgylch rhai o’r caeau pêl-droed, yn ogystal â gwella darnau eraill o isadeiledd ar y safle fel y bo’r gyllideb yn caniatáu. Cafwyd trafodaethau cychwynnol ag aelodau etholedig a chydweithwyr yn y gwasanaethau eiddo, ac rydym wrthi’n meithrin cyswllt â grwpiau defnyddwyr yn y gymuned leol ynglŷn â’r cynlluniau.