Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cronfa Allweddol Gallu Cymuned
Arweinydd Prosiect: Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
Trosolwg o’r prosiect
Nod y prosiect yw trawsnewid pŵer a gallu pobl yn y Trydydd Sector ac o fewn cymunedau ledled Sir Ddinbych i greu a darparu gwasanaethau hanfodol mewn byd heriol sy’n newid. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar:
- Meithrin gallu arweinyddiaeth gynaliadwy mewn sefydliadau Trydydd Sector i allu:
- gwneud y mwyaf o ymateb y sector i heriau ac anghenion cymdeithasol sy'n dod i'r amlwg
- tyfu gwasanaethau i lenwi’r bylchau
- buddsoddi mewn gwytnwch sefydliadol
- Creu a darparu model ar gyfer gweithio mewn cymunedau i feithrin hyder a sgiliau pobl i gyd-gynhyrchu datrysiadau i broblemau lleol
- Darparu rhaglen grantiau arwyddocaol wedi’i thargedu at gefnogi arloesedd, gwytnwch a chynaliadwyedd sefydliadau’r Trydydd Sector sydd eisoes yn bodoli ac er mwyn datblygu rhai newydd.
Diweddariad y prosiect
Mawrth 2024
Dyma rai o’r pethau pwysicaf y mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi’u cyflawni ers cael cyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin:
- Mae’r holl grantiau Cyfalaf a Refeniw yng Nghylch 1 wedi’u talu - cynhaliwyd pob cyfarfod monitro ac mae tystiolaeth o ganlyniadau a deilliannau’n cael ei chasglu ar hyn o bryd. Mae’r prosiectau’n ennyn cryn ganmoliaeth.
- Cynhaliwyd pedwar o Ddosbarthiadau Meistr 321 - cafwyd ymateb ardderchog i’r pedwerydd un (Rheoli Newid).
- Sefydlwyd deuddeg o berthnasau hyfforddi â Phrif Swyddogion mewn sefydliadau trydydd sector.
- Cychwynnodd yr ail gylch o’r Gronfa Allweddol ar 01/03/2024 a daeth i ben ar 31/3/24.