Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Llwybrau

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych
Trosolwg o’r prosiect
Bydd prosiect Llwybrau yn darparu cymorth i tua 420 o bobl ifanc bob blwyddyn academaidd yn Sir Ddinbych, i leihau'r risg o ymddieithrio oddi wrth addysg, darparu cymorth i ailymgysylltu ag addysg, neu i symud i waith neu hyfforddiant ar ddiwedd blwyddyn 11. Y prif nod yw mynd i’r afael ag un o’r pethau sy’n achosi tlodi hirdymor.
Mae Llwybrau yn cynnig dwy brif elfen i gefnogi pobl ifanc ddiamddiffyn:
- Swyddogion Ymgysylltu Addysg
- Cwnselwyr, a fydd yn cynnig gwasanaethau ychwanegol i dargedu iechyd meddwl, yn enwedig ymysg bechgyn
Diweddariad y prosiect
Mawrth 2024
Soniwyd am rywfaint o weithgarwch y prosiectau Llwybrau’n ddiweddar mewn datganiadau i’r wasg gan Gyngor Sir Ddinbych. Darllenwch fwy: