Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Academi Ddigidol Werdd Sir Ddinbych

Arweinydd Prosiect: Coleg Llandrillo Menai
Trosolwg o’r prosiect
Bydd y prosiect hwn yn darparu cymorth gwerthuso a mentora arbenigol i fusnesau bach a chanolig i wella eu galluoedd digidol a net sero yn unol â’u strategaeth fusnes greiddiol, gan gefnogi busnesau i wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant a lleihau carbon a chostau.
Bydd y cymorth yn cynnwys:
- Gwneud gwaith diagnostig ar waelodlin amgylcheddol a digidol y busnes
- Darparu map gweithredu wedi’i deilwra er mwyn datgarboneiddio a digideiddio
- Mentora busnesau i gyflawni ar y cynlluniau hynny
- Dod o hyd i gyllid i ategu buddsoddiadau cyfalaf a rhannu arferion gorau
- Cefnogi’r newidiadau i’r ffordd o weithredu ac ymddygiad gweithwyr