Mae Swm Cymudol yn daliad gan ddatblygwyr i awdurdod lleol pan nad oes modd creu man awyr agored mewn datblygiad. Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i wella mannau agored a mannau chwarae, fel rheol yn yr un dref neu gymuned â’r datblygiad. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gellir defnyddio'r arian mewn trefi neu gymunedau cyfagos (cyn belled â'u bod yn y sir).
Gallwch wneud cais am Symiau Cymudol rwan
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 12pm (hanner dydd) ar Dydd Llun 7 Ebrill 2024.
Cyllid
Bydd arian ond ar gael yn ardaloedd cynghorau dinas, tref a chymuned lle mae datblygiadau gyda chytundebau symiau gohiriedig mannau agored yn bodoli, a lle mae’r amodau angenrheidiol wedi eu bodloni er mwyn gwneud taliadau cyn i’r arian gael ei hysbysebu.
Bydd ceisiadau ar gyfer prosiectau cymwys yn cymryd lle ar draws ardaloedd dinas, tref a chymuned a restrir isod yn cael eu derbyn, fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sydd yn cymryd lle yn yr un ardal y mae’r datblygiadau yn cael eu hadeiladu (amlygir yn y golofn lleoedd â blaenoriaeth).
Mae’r cyllid sydd ar gael, ac ym mha faes yn cael eu rhestru isod:
Symiau Cymudol: Cyllid ar gael
Ardal cyngor tref neu gymuned | Lleoedd â Blaenoriaeth | Swm sydd ar gael |
Clocaenog |
Dim lle penodol â blaenoriaeth. |
£1,300.26 |
Cyffylliog |
Dim lle penodol â blaenoriaeth. |
£1,266.69 |
Dinbych |
Dim lle penodol â blaenoriaeth. |
£204,890.05 |
Dyserth |
Dim lle penodol â blaenoriaeth. |
£2,474.43 |
Henllan |
Dim lle penodol â blaenoriaeth. |
£1,283.98 |
Llanfair Dyffryn Clwyd |
Dim lle penodol â blaenoriaeth. |
£1,237.21 |
Llangollen |
Dim lle penodol â blaenoriaeth. |
£1,237.21 |
Llangynhafal |
Gellifor and LlangynhafaI |
£11,370.94 |
Llanrhaeadr yng Nghinmeirch |
Llanrhaeadr |
£15,353.88 |
Llanynys |
Rhewl |
£2,474.44 |
Prestatyn a Meliden |
Dim lle penodol â blaenoriaeth. |
£1,237.21 |
Y Rhyl |
Dim lle penodol â blaenoriaeth. |
£22,248.21 |
Rhuthun |
Dim lle penodol â blaenoriaeth. |
£2,871.84 |
Llanelwy |
Dim lle penodol â blaenoriaeth. |
£49,723.74 |
Pwy all wneud cais?
Mae sefydliadau sy’n cael gwneud cais am arian yn cynnwys:
- Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
- Grwpiau gwirfoddol a chymunedol
- Elusennau
- Sefydliadau sector cyhoeddus
- Clybiau chwaraeon amatur
- Cyngor Sir Ddinbych
Ni fydd clybiau chwaraeon a chlybiau aelodaeth breifat nad ydynt n cynnig y dewis i ‘dalu a chwarae’, yn gymwys i wneud cais am arian.
Pa fath o brosiect sy’n gymwys?
Gellir defnyddio’r arian i greu mannau agored newydd neu i wella’r ddarpariaeth bresennol, a thrwy hynny gynyddu’r defnydd.
Gall gwelliannau dilys i’r ddarpariaeth bresennol gynnwys:
- diweddariadau i’r amrediad o gyfleusterau sydd ar gael (gan gynnwys diweddaru hen offer) ond nid cyfnewid eitemau nad oes modd eu defnyddio oherwydd diffyg gwelliannau cynnal a chadw er mwyn i’r safle/cyfleuster fod yn fwy hygyrch;
- gwaith i gynyddu defnydd o’r cyfleuster (h.y. arwyneb pob tywydd);
- draenio neu waith arwyneb er mwyn ymestyn y defnydd o’r cyfleuster;
- gwaith ffensio a goleuo er mwyn gwneud y cyfleuster yn fwy diogel;
- darparu cyfleusterau newid er mwyn cynyddu’r defnydd;
- parcio ceir, neu wasanaethau hanfodol eraill i gynyddu ac ymestyn defnydd.
Mae arian ar gael ar gyfer mannau agored hamdden cyhoeddus yn yr awyr agored ac sydd â mynediad agored a’r dewis i ‘dalu a chwarae’. Mae mannau agored fel ardaloedd gwyrdd a choetiroedd yn gymwys cyn belled â bod y prosiect yn cynyddu gwerth hamdden y lleoliad. Mae parciau a gerddi ffurfiol ble gall pobl ymarfer hefyd yn gymwys fel y maen cyfleusterau chwaraeon ffurfiol gyda mynediad cyhoeddus agored.
Am fwy o wybodaeth am bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol a chanllawiau cynllunio atodol, ewch i dudalennau Cynllun Datblygu Lleol.
Arweiniad pellach
Cysylltwch â communitydevelopment@denbighshire.gov.uk am ragor o wybodaeth.