
Annwyl Breswylydd / Fusnes,
Ynglŷn â: Bloc Toiledau Maes Parcio Lôn Las Corwen
Rydym yn ysgrifennu i’ch hysbysu y byddwn yn cau’r toiledau ym Maes Parcio Lôn Las yn fuan, gan ein bod yn ei adnewyddu i floc toiledau Dynion/Merched agored.
Disgwylir i’r cyfnod gwaith fod o 8 Ebrill 2024 tan 12 Gorffennaf 2024. Byddwn yn gosod toiledau dros dro ar gyfer defnydd y cyhoedd heb unrhyw gost ar gyfer cyfnod y gwaith. Unwaith i’r toiledau gael eu hadnewyddu cânt eu cynnal gan Gyngor Tref Corwen.
Ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi, fodd bynnag edrychwn ymlaen at ddarparu bloc toiledau wedi’i adnewyddu i’r gymuned, a fydd yn gwasanaethu anghenion preswylwyr a thwristiaid.
Yn ddiffuant
Mike Jones
Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd
traffic@denbighshire.gov.uk
Tudalennau cysylltiedig
Cronfa Ffyniant Bro: Maes Parcio Lôn Las