Ymgynghoriad Cyhoeddus: Bloc Toiledau Maes Parcio Lôn Las Corwen (Llythyr at breswylwyr a busnesau)

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Annwyl Breswylydd / Fusnes,

Bloc Toiledau Maes Parcio Lôn Las Corwen

Ysgrifennwn i’ch hysbysu ynglŷn â noson Ymgynghoriad Cyhoeddus i’w chynnal ar nos Fawrth 10 Hydref 2023 am 6.30pm ym Mharc Neuadd Goffa Corwen, Lôn Las, Corwen LL21 0DN. Mae’n lleoliad cwbl hygyrch.

Diben y cyfarfod hwn yw cyflwyno rhai dewisiadau o ran dyluniad y bloc toiledau a chael eich adborth i gefnogi’r penderfyniad ynglŷn â’r dyluniad a’r gweithrediad manwl dilynol.

Mae’n bwysig i ni eich bod yn rhan o’r broses. Byddwch yn cael cyfle i roi adborth ar y cynigion.

Bydd gwasanaeth cyfieithu Cymraeg ar gael.

Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol yn y noson ymgynghori yna bydd y wybodaeth ar gael yn Llyfrgell Corwen tan 13 Hydref 2023.

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi.

Yn ddiffuant

Mike Jones

Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd

traffic@denbighshire.gov.uk