Rownd 1 Cronfa Ffyniant Bro De Clwyd: Trosolwg
Cyhoeddwyd y rownd gyntaf o’r Gronfa Ffyniant Bro yn Adolygiad Gwariant 2020. Ym mis Hydref 2021, cafodd ceisiadau llwyddiannus a oedd yn dod i werth £1.7 biliwn, eu dyfarnu i 105 prosiect ar draws y DU.
Fel rhan o rownd 1, roedd Cyngor Sir Ddinbych yn llwyddiannus yn eu cais ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd.
Roedd cyllid Llywodraeth y DU a ddyrannwyd i Sir Ddinbych yn £3.8miliwn ac mae o fudd i gymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.
Rownd 1 Cronfa Ffyniant Bro: Cynigion prosiect llwyddiannus