Pwyntiau allweddol
Adeilad Fictoraidd yw hwn wedi ei adeiladu yn 1872 ac mae’n parhau yn gadarn o ran ei strwythur.
Ar hyn o bryd nid oes yna unrhyw leoliadau addas i breswylwyr Bryneglwys gyfarfod a chynnal digwyddiadau cymdeithasol gan fod y dafarn leol wedi ei chau ers nifer o flynyddoedd ac nid oes llawer o siawns y bydd yn ailagor. Nod y prosiect yw adnewyddu Canolfan Iâl i’w gwneud yn addas i’r diben fel canolbwynt cymunedol er mwyn gallu cynnig cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol.
Gan nad oes gan y pentref unrhyw gludiant cyhoeddus, os nad yw preswylwyr yn gyrru maent i bob pwrpas wedi eu cyfyngu i’r pentref a all fod yn ynysig. Bydd yr ymddiriedolwyr yn cynnal caffi cymunedol i alluogi preswylwyr i gyfarfod mewn amgylchedd braf.