Cwestiynau Cyffredin
Pam y cynigir gwneud newidiadau i Sgwâr Sant Pedr a rhai o’r ffyrdd tuag ato?
Mae ‘Gweithgor Dyfodol Rhuthun’ Cyngor Tref Rhuthun wedi datblygu ac ymgynghori ar weledigaeth hirdymor ar gyfer Rhuthun, a defnyddiwyd hyn i ategu’r cais am gyllid o’r Gronfa Ffyniant Bro mewn perthynas â Sgwâr Sant Pedr.
Nodwyd yr amcanion canlynol yn rhan o’r weledigaeth ar gyfer canol y dref:
- Annog gyrwyr i beidio â defnyddio’r dref fel llwybr trwodd, ac arafu cyflymder y traffig yng nghanol y dref
- Cynnal mynediad i gerbydau a darpariaeth ar gyfer parcio yng nghanol y dref
- Gwella mannau llwytho / gollwng / parcio i bobl anabl
- Darparu mynediad lletach, mwy diogel, ar gyfer cerddwyr a defnyddwyr ar olwynion
- Creu lle digon mawr i allu cynnal digwyddiadau cymunedol heb orfod cau unrhyw ffyrdd.
Pam ydych wedi cael gwared â’r gylchfan ac addasu cynllun y ffyrdd?
Yr ydym wedi cael gwared â’r gylchfan i wneud lle i gynnal digwyddiadau yng nghanol y dref, ac roedd gofyn ailddylunio llwybr y briffordd drwy ganol y dref i wneud hyn.
Nod cynllun newydd y ffyrdd yw bod o gymorth i’r rheiny sy’n defnyddio’r dref, a cheisio lleihau traffig trwodd.
Mae llwybr teithio llesol wedi ei gynnwys ar ran mwyaf serth Stryt y Farchnad, fel nad yw beicwyr yn teimlo dan bwysau gan gerbydau wrth deithio i fyny’r allt.
Mae Stryd y Ffynnon yn rhy gul ar gyfer traffig dwy ffordd a cherddwyr. Bydd ei gwneud yn stryd unffordd i draffig yn ei gwneud yn fwy diogel ar gyfer cerddwyr a cherbydau, a byddai cerbydau’n gallu parcio arni.
Byddai newidiadau i’r gyffordd ar Stryd Clwyd yn darparu mwy o le i gerbydau danfon nwyddau droi, ac yn darparu palmentydd lletach ar gyfer cerddwyr, a man croesi.
A ellid ystyried strydoedd eraill yn lle’r rheiny a gynigir, neu’n ogystal â hwy?
Mae gan Gyngor Sir Ddinbych swm penodol o gyllid ar gyfer y prosiect ac mae wedi ei gontractio i Lywodraeth y DU i gyflawni allbynnau’r cyllid.
Mae’r cynllun a gynigir wedi ystyried y weledigaeth ar gyfer canol y dref a bydd yn cyflawni allbynnau gofynnol y cyllid, sy’n cynnwys gwell ffyrdd ar gyfer beicio, gwell llwybrau ar gyfer cerddwyr, a bydd y man digwyddiadau’n creu ardal newydd o barth cyhoeddus.
Pam ydych wedi cyflwyno llwybr teithio llesol i Stryt y Farchnad, a pham y mae ar y rhan uchaf yn unig?
Yr uchelgais yn yr hirdymor yw darparu llwybr teithio llesol yr holl ffordd i fyny Stryt y Farchnad – o gylchfan Brieg i sgwâr y dref.
Yr ydym wedi defnyddio Cyllid Ffyniant Bro i gefnogi cynnwys rhan uchaf y llwybr i alluogi gwneud y cysylltiad i’r gwaith a gynigir ar gyfer y sgwâr, er mwyn osgoi tarfu yn y dyfodol.
Bydd y dull dylunio a’r defnydd cyson o ddeunyddiau yn rhan uchaf Stryt y Farchnad o gymorth i ddiffinio’r llwybr i gerddwyr i ganol y dref.
Cynhwysir rhan isaf y llwybr teithio llesol mewn cais yn y dyfodol am arian gan gynllun cyllid grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru maes o law.
Beth yw pwrpas y bwrdd arafu yn y ffordd?
Mae byrddau arafu yn cynorthwyo gyrwyr i wybod eu bod mewn ardal i gerddwyr ac yn eu hannog i arafu a bod yn fwy ymwybodol.
Gyda’r palmant is a ddangosir, mae’n darparu mynediad rhwydd i gerddwyr rhwng y man digwyddiadau ac ardal yr Hen Lys / Stryd y Ffynnon a Stryd y Castell.
A ydych yn cadw’r nifer presennol o ofodau parcio ceir yng nghanol y dref?
Ein bwriad yw cadw cynifer ag sy’n bosibl o’r lleoedd parcio presennol.
Credir bod olion canoloesol yn y dref. Sut fyddwch yn atal unrhyw amhariad neu ddifrod i arteffactau?
Mae Swyddog Cadwraeth Cyngor Sir Ddinbych a hanesydd lleol wedi rhoi gwybod i ni am bresenoldeb olion canoloesol. Adolygir y cynllun arfaethedig mewn perthynas â safleoedd tebygol o ddiddordeb hanesyddol, a chynhelir briff gwylio archaeolegol pan fydd gwaith cloddio’n digwydd yn yr ardaloedd hyn.
A fydd mynediad i ganol y dref yn cael ei gynnal ar gyfer busnesau yn ystod y gwaith?
Mae’n anochel y bydd rhywfaint o darfu yn ystod y cyfnod adeiladu. Yr ydym yn annog pob busnes i rannu eu safbwyntiau ar y cam cynnar hwn, fel bod modd i ni ystyried eu pryderon pan fyddwn yn adolygu’r broses o gyflwyno’r gwaith adeiladu fesul cam. Bydd hyn o gymorth i lywio’r ffordd y dylem gwblhau’r gwaith a’r cyfnodau rhybudd a’r cyfathrebu y mae angen i ni ei wneud â busnesau.
Sut fyddwch yn osgoi colli masnach? Efallai y bydd pobl yn dewis siopa yn rhywle arall os yw’n anodd cael mynediad i’r dref.
Dylunnir y gwaith adeiladu i sicrhau bod rhywfaint o fynediad i ganol y dref bob amser. Mae’n bosibl y bydd oedi o ganlyniad i’r rheolyddion angenrheidiol ar gyfer rheoli traffig, a chydnabyddir y gall hyn atal rhai pobl rhag defnyddio’r dref mor aml.
A fydd y prosiect yn digolledu busnesau am golli enillion?
Na, mae’r cyllid wedi ei sicrhau ar gyfer cyflawni’r prosiect a gynigir, ac nid oes digon o arian i ystyried na gweinyddu unrhyw gynllun digolledu.
Pryd fydd y gwaith yn dechrau ar y prosiect hwn?
Disgwylir i’r gwaith ddechrau ar y safle ym mis Medi 2025. Ni fydd unrhyw waith yn cael ei wneud cyn Gŵyl Rhuthun, a gynhelir ddiwedd mis Mehefin