Sir Ddinbych yn gweithio
Ydych chi'n Gyn-filwr y Lluoedd Arfog sy'n byw yn Sir Ddinbych? Ydych chi angen cefnogaeth i gael Gwaith, Addysg a Hyfforddiant?
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth arbenigol i gyn-filwyr i helpu i gael gwared â'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael dyfodol mwy disglair.
Mae pob un o'n gwasanaethau yn rhad ac am ddim. Rydym hefyd yn cyfeirio at ystod eang o wasanaethau eraill sy'n cefnogi cyn-filwyr fel gwasanaethau iechyd meddwl a grwpiau cefnogi.
Mwy o wybodaeth: Sir Ddinbych yn gweithio
Mae yna nifer o sefydliadau a all eich helpu i gael gwaith.
Gyrfa Cymru
Gall Gyrfa Cymru ddarparu gwybodaeth am swyddi, hyfforddiant ac addysg i'ch helpu i gynllunio eich gyrfa.
Wefan Gyrfa Cymru (gwefan allanol).
Canolfan Byd Gwaith
Gall y Ganolfan Byd Gwaith roi cyngor i chi ar fudd-daliadau a ffyrdd o fynd i mewn i waith, gan gynnwys hyfforddiant, profiad gwaith, gwirfoddoli, treialu gwaith a dechrau eich busnes eich hun. Gallwch hefyd gael gwybodaeth yma ar sut i gyfuno gwatih a chyfrifoldebau eraill fel gofalu neu edrych ar ol plant, a'ch helpu i ddod o hyd i waith os oes gennych anabledd.
GOV.UK: Canolfan Byd Gwaith (gwefan allanol).
GOV.UK: dod o hyd i swydd (gwefan allanol).
Heddlu Gogledd Cymru
Ewch i gael gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru yn adran recriwtio eu gwefan (gwefan allanol).
Catrawd (Cymru) Y Corfflu Logisteg Brenhinol 157, Sgwadron Cludiant (Sir Flint a Rhydd-Ddeiliad Sir Denbych) 398
Harry Weale VC Army Reserve Centre,
Station Rd,
Queensferry,
Flintshire,
CH5 2TE
Ffôn: 01244 816873 I 94555 8205 / AO 8202 Fax 01244 816874.
Ebost: john.currie518@mod.gov.uk