Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Canol Tref Y Rhyl (PSPO) 2024
Cyngor Sir Ddinbych Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2024
Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 (Pennod 2)
Tref y Rhyl
Wrth arfer ei bwerau o dan Adrannau 59, 63 a 72 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 ("y Ddeddf”) a'r holl bwerau galluogi eraill, mae' r Cyngor drwy hyn yn bwriadau wneud y Gorchymyn canlynol.
Mae 'r tir a ddangosir ar y map sydd ynghlwm yn dir yn ardal y Cyngor y mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn berthnasol iddo ac a fydd yn cael ei ddiogelu drwy greu'r Gorchymyn (a elwir o hyn ymlaen yn "ardal a chyfyngiad penodol").
Gellir enwi'r Gorchymyn yn Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Canol Tref y Rhyl sy’n dod i rym ar 4 Ebrill 2024 am gyfnod o 3 blynedd.
Mae'r Cyngor yn gwneud y Gorchymyn hwn gan fod yr ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn yr ardal a chyfyngiad penodol wedi cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd y rhai sy'n byw yn lleol. Mae effaith, neu effaith debygol, yr ymddygiad y soniwyd amdano yn, neu'n debygol o fod, o natur barhaus, ac yn, neu'n debygol, o wneud y gweithgareddau’n afresymol, ac yn cyfiawnhau'r cyfyngiadau a bennir yn y Gorchymyn.
1. Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
1.1 Gall person awdurdodedig ofyn i unigolyn, neu grŵp, o fewn yr ardal â chyfyngiad penodol wasgaru, lle maent yn amau'n rhesymegol bod unrhyw unigolyn neu grŵp yn achosi, neu' n debygol o achosi niwsans, pryder, aflonyddwch neu drallod i unrhyw berson arall.
1.2 Mae unigolyn sy'n cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei wahardd rhag aros (naill ai'n unigol neu mewn grwpiau o ddau neu fwy o bobl) o fewn yr ardal dan gyfyngiadau ar ôl i unigolyn ag awdurdod ofyn i’r grŵp wasgaru ac ni ddylent ddychwelyd am gyfnod penodedig o hyd at 48 awr.
1.3 Mae unigolyn yn cael ei wahardd rhag loetran mewn drysau siopau o fewn yr ardal â chyfyngiadau, gyda'r pwrpas amlwg o achosi niwsans, aflonyddwch, pryder neu drallod.
1.4 Mae unigolyn yn cael ei wahardd rhag loetran mewn cyflwr o feddwdod neu gan ymddwyn mewn modd sydd wedi’i achosi gan gyffuriau yn yr ardal â chyfyngiadau.
2. Yfed ar y stryd
2.1 Gwaherddir unigolyn rhag bod â chynhwysydd agored o alcohol yn ei feddiant mewn man cyhoeddus (hyd yn oed os yw'n wag) o fewn yr ardal sydd wedi’i dynodi yn y PSPO.
2.2 Gwaherddir unigolyn rhag bod â chynhwysydd o alcohol heb ei agor yn eu meddiant mewn man cyhoeddus o fewn yr ardal â chyfyngiadau mewn amgylchiadau a fyddai'n arwain rhywun i amau’n rhesymol bod y cynhwysydd yn debygol o gael ei agor a'i yfed mewn man cyhoeddus o fewn yr ardal â chyfyngiadau.
2.3 Mae angen i unigolyn ildio unrhyw alcohol sydd yn eu meddiant os gofynnir iddynt wneud hynny gan berson ag awdurdod yn yr ardal â chyfyngiadau.
Unigolion ag awdurdod i orfodi'r Gorchymyn hwn - Swyddog Heddlu a Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu
Mae Adran 63 y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona yn nodi os yw Cwnstabl neu unigolyn ag awdurdod yn credu eich bod wedi torri'r Gorchymyn hwn, gall y cwnstabl neu’r unigolyn ag awdurdod ofyn i chi gydymffurfio â'r darpariaethau a nodir ym mharagraffau 1 a 2 uchod.
Trosedd
Mae unrhyw unigolion sydd ddim yn cydymffurfio â gwaharddiadau 1 a 2 uchod, heb esgus rhesymol, yn cyflawni trosedd.
Cosb
Bydd unrhyw un sy’n euog o drosedd yn ymwneud â methiant i gydymffurfio â gwaharddiadau 1-2 uchod yn agored i euogfarn ddiannod a dirwy.
Cosb Benodedig
Gall cwnstabl neu unigolyn awdurdodedig gyflwyno rhybudd cosb benodedig i unrhyw un y maent yn credu eu bod wedi cyflawni trosedd. Bydd gennych 14 diwrnod i dalu'r gosb benodedig. Ni fyddwch yn cael eich erlyn am y trosedd os byddwch yn talu'r gosb benodedig o fewn 14 diwrnod.
Apeliadau
Rhaid gwneud unrhyw her i'r Gorchymyn hwn yn yr Uchel Lys gan unigolyn â buddiant o fewn chwe wythnos o'i gyflwyno.
Unigolyn â buddiant yw rhywun s’n byw, gweithio neu'n ymweld yn rheolaidd ag ardal dan gyfyngiad. Mae hyn yn golygu mai dim ond y rhai hynny sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol sydd â’r hawl i herio. Mae'r hawl i herio hefyd yn bodoli lle mae gorchymyn wedi'i amrywio gan y Cyngor. Gall unigolyn â buddiant herio dilysrwydd y Gorchymyn ar ddwy sail:
- nad oedd gan y Cyngor y pŵer i wneud y Gorchymyn neu i gynnwys gwaharddiadau neu ofynion penodol;
- neu na chydymffurfiwyd ag un o ofynion y ddeddfwriaeth, er enghraifft cynnal ymgynghoriad.
Pan wneir cais, gall yr Uchel Lys benderfynu atal gweithrediad y Gorchymyn dros dro nes bydd y Llys wedi gwneud penderfyniad, yn rhannol neu yn ei gyfanrwydd. Mae gan yr Uchel Lys y gallu i gynnal, dileu neu amrywio'r Gorchymyn.
Dyddiedig: 7 Mawrth 2024
Gosodwyd Sêl Gyffredin Cyngor Sir Ddinbych ym mhresenoldeb:
Clare Lord
Dyddiedig: 7 Mawrth 2024