Mae rhandir yn ddarn o dir sy'n cael ei ddarparu i arddwyr hobi anfasnachol unigol, ar gyfer tyfu llysiau a phlanhigion ffres.
Mae gennym bump o safleoedd rhandir, yn:
- Caradoc Road, Prestatyn
- Uwch y Dre, Corwen
- Ffordd Cae Glas, Rhuthun
- Fron Bach, Llangollen
- Ffordd Las, Dinbych
- Y Morfa, Lôn Goed, Prestatyn (rhandir gyda gwlâu uwch)
- Geufron, y Rhyl (Rhandir gyda gwelyau uwch)
- Ffordd Las, y Rhyl (rhandiroedd gyda gwlâu uwch)
- Crescent Road, y Rhyl (rhandir gyda gwlâu uwch)
Beth yw cost rhandir?
Cost rhadir traddodiadol yw £52 y flwyddyn.
Mae'r rhandir gwely a godwyd yn costio £26 y flwyddyn.
Mae tâl gweinyddol untro o £25.00 ar gyfer pob rhandir.
Sut ydw i'n gwneud cais am randir?
Ymgeisiwch ar-lein am blot mewn rhandir
Ar hyn o bryd, mae'n holl safleoedd rhandir yn llawn.
Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwn yn ychwanegu eich manylion at y rhestr aros ar gyfer y rhandir rydych wedi'i ddewis. Byddwn yn cysylltu â chi pan fydd lle ar gael ar y safle.
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.