Sipsiwn a Theithwyr: Tresmasu ar dir heb ganiatâd / Gwersylloedd Diawdurdod
Mae newidiadau i Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 yn golygu bod gwersylloedd diawdurdod yn awr yn cael eu trin o dan drosedd tresmasu ar dir heb ganiatâd.
Os caiff gwersyll diawdurdod ei sefydlu ar dir yn ein meddiant ni, byddwn yn cymryd camau gorfodi.
Ni allwn gymryd camau i symud gwersylloedd diawdurdod oddi ar dir preifat neu dir 3ydd parti. Darganfyddwch beth y gellir ei wneud os oes gwersyll diawdurdod ar dir preifat neu dir 3ydd parti.
Ni allwn symud gwersylloedd diawdurdod o dir ar unwaith. Rhaid i ni weithredu yn ôl deddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol drwy:
- ddangos fod y gwersyll wedi ei sefydlu ar dir heb ganiatâd
- gan wneud ymholiadau ynghylch iechyd cyffredinol, lles ac addysg plant gan sicrhau y cydymffurfir yn llawn â Deddf Hawliau Dynol 1998
- gan ddilyn gweithdrefn a amlinellwyd o ran darparu perchnogaeth tir a manylion y gwersyll anghyfreithlon a fydd yn ein galluogi i lwyddo i gael yr awdurdod angenrheidiol gan y llys er mwyn i breswylwyr adael y safle.
Rhoi gwybod am wersyll diawdurdod ar dir y cyngor
Gallwch roi gwybod am wersyll diawdurdod ar dir y cyngor drwy ffonio ni ar 01824 706000.
Pa mor hir fydd hi'n cymryd i wersyll gael ei symud?
Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau bob achos unigol. Bydd angen i ni ystyried y materion lles a amlinellir uchod, yn ogystal â pha mor fuan y gellir cael dyddiad gwrandawiad llys.
A all y llys wrthod cymeradwyo gorchymyn i symud gwersyll?
Gall. Os oes rheswm na ellir ei osgoi dros adael i’r meddianwyr aros ar y safle, neu os yw’r llys yn credu ein bod wedi methu gwneud ymholiadau digonol ynghylch iechyd a lles cyffredinol y Meddianwyr. Mae’n rhaid i ni geisio canfod yr wybodaeth hon cyn mynd i’r llys.
Beth all yr heddlu ei wneud?
Gallwch ddysgu mwy am yr hyn y gall yr heddlu ei wneud ar wefan Heddlu Gogledd Cymru (gwefan allanol).