Pwy yw Sipsiwn, Roma a Theithwyr?
Yn Ewrop cyfeirir at Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn aml fel “Roma”. Yng Nghymru defnyddir y talfyriad SRTh, neu GRT yn Saesneg (‘Gypsies, Roma and Travellers’).
Mae Sipsiwn a Theithwyr yn byw bywyd ‘nomadaidd’, sy’n golygu teithio i wahanol fannau yn rheolaidd, a pheidio ag aros na byw mewn lleoliad parhaol (credir mai hyn yw’r ffurf hynaf o gymdeithas).
Ystyrir mai’r bobl hynny sydd wedi ymfudo i’r DU o Ddwyrain a Chanolbarth Ewrop o 1990 ymlaen yw Roma.
Ychwanegodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr opsiwn i ddewis Sipsiwn a Theithwyr fel grŵp ethnig yng Nghyfrifiad 2011, ac ychwanegwyd Roma fel opsiwn yng Nghyfrifiad 2021. O’r rhai a lenwodd Cyfrifiad 2011, yr oedd dros 58,000 (0.1% o drigolion arferol Cymru a Lloegr) yn cyfrif eu hunain yn Sipsiwn a Theithwyr. Nid yw canlyniadau Cyfrifiad 2021 wedi eu cyhoeddi eto.
Perthyn Sipsiwn, Roma a (rhai) Teithwyr i grŵp lleiafrifoedd ethnig, ac fe’u hamddiffynnir rhag gwahaniaethu yn eu herbyn gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban, a Gorchymyn Cysylltiadau Hiliol (GI) 1997 yng Ngogledd Iwerddon.