Lwfans a chydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr
Mae cynghorwyr yn derbyn lwfans blynyddol sylfaenol (telir cyfran ohono pob mis) sy’n amodol ar dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Mae’r lwfans yn gyfraniad tuag at gostau sy’n codi yn sgil ymgymryd â busnes y cyngor, fel costau galwadau ffôn a threuliau teithio. Nid yw’r lwfans yn dâl am amser cynghorwyr yn ymgymryd â busnes y cyngor.
Os ydych yn ystyried ceisio cael eich ethol yn gynghorydd, yna gallai fod yn ddefnyddiol i chi wybod rhai ffeithiau am y taliadau byddai gennych hawl i'w derbyn.
Canllawiau: Cynghorau tref a Chymuned - taliadau i gynghorwyr (gwefan allanol)
Faint mae cynghorwyr yn ei dderbyn?
Mae’r swm sy’n daladwy i gynghorwyr pob blwyddyn yn cael ei bennu gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (gwefan allanol).
Rydym ni hefyd yn talu lwfans ychwanegol i rai cynghorwyr sy’n ddeiliaid swydd neu sydd â chyfrifoldebau arbennig.
I dderbyn manylion llawn lwfansau cynghorwyr yn y blynyddoedd diwethaf, gwelwch y datganiadau isod:
Lwfans cynghorwyr
Cydnabyddiaeth ariannol aelodau