Arbedion cyllideb: Eich syniadau

Arbedion cyllideb: Eich syniadau

Mae'r Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol yn sgil pwysau o ran chwyddiant ac ar wasanaethau, sy'n drech na'r cynnydd mewn cyllid a gawn gan Lywodraeth Cymru. Mae'r bwlch presennol yn y gyllideb ar gyfer 2024/25 rhwng £10m a £28m, ac mae disgwyl rhagor o bwysau yn 2025/26.

Gofynnwyd eisoes i'r gwasanaethau am syniadau am arbedion ond rydym hefyd yn ymwybodol o gyfoeth a dyfnder profiad ein holl aelodau staff, felly hoffem eich gwahodd chi i gyfrannu eich syniadau am ffyrdd o wneud arbedion neu arbedion effeithlonrwydd a allai helpu sicrhau y gall y Cyngor bennu cyllideb gytbwys dros y blynyddoedd i ddod.

Caiff yr awgrymiadau eu hystyried gan y gwasanaeth cyllid, y Tîm Gweithredol Corfforaethol a'r Cabinet yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd.

Mae'r cynllun awgrymiadau bellach wedi cau.