Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Penodi Aelodau Cyfetholedig i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Mae Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru’n dymuno penodi pobl ymroddgar i wasanaethu fel aelodau cyfetholedig o 1 Tachwedd 2024 tan 31 Hydref 2028 er mwyn cefnogi a chraffu ar waith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Gweld mwy o wybodaeth (gwefan allanol)

Yng Ngogledd Cymru, etholwyd Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar 2 Mai 2024 i gynrychioli preswylwyr chwe sir / bwrdeistref sirol. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd y Cynghorau canlynol:

  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 

Canlyniadau: 2 Mai 2024

Cyfanswm nifer y pleidleisiau a gofnodwyd i bob ymgeisydd yn yr etholiad fel a ganlyn:

Canlyniadau
Enw'r ymgeisyddDisgrifiad (os oes un)Nifer y pleidleisiau
DUNBOBBIN, Andrew Christopher Llafur a'r Blaid Gydweithredol 31,950 - etholwyd
GRIFFITH, Ann Plaid Cymru - The Party of Wales 23,466
JONES, Brian Ymgeisydd Plaid Geidwadol Cymru 26,281
MARBROW, Richard David Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 7,129

Seddau gwag: 1

Etholaeth: 521,070

Papurau o ddosbarthwyd: 89,599

17.2% pol

Yr oedd nifer y papurau pleidlais a wrthodwyd fel a ganlyn:

  1. heb farc swyddogol: 1
  2. pleidleisio am fwy o ymgeiswyr nag yr oedd hawl gan y pleidleisiwr: 96
  3. ysgrifen neu farc y gellid adnabod y pleidleisiwr o’i herwydd: 9
  4. heb farc: 202
  5. ddirymu oherwydd ansicrwydd: 465

Cyfanswm y pleidleisiau a ddifethwyd: 773

Beth yw rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd?

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gwneud yn siŵr bod anghenion plismona eu cymunedau yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan ddod â chymunedau yn nes at yr heddlu ac yn magu hyder y cyhoedd. 

Mae’r Comisiynydd yn rhoi llais i’r cyhoedd ar y lefel uchaf bosib’, ac yn rhoi’r gallu i’r cyhoedd sicrhau bod eu heddlu yn atebol.