Etholiadau Seneddol y Deyrnas Gyfunol (yr Etholiad Cyffredinol)

Mae’n gyfle i bobl ledled y Deyrnas Gyfunol ddethol Aelod Seneddol (AS) i gynrychioli ardal benodol (a elwir yn etholaeth) yn Nhŷ’r Cyffredin am hyd at bum mlynedd.

Wedi i’r terfyn amser ar gyfer ymgeiswyr fynd heibio, cyhoeddir rhestr o’r ymgeiswyr sy’n sefyll ymhob un o’r etholaethau yn Sir Ddinbych ar wefan y Cyngor.

Yn Sir Ddinbych, cynhelir yr etholiad cyffredinol hwn ar sail ad-drefnu ffiniau pedair o etholaethau:

  • Bangor Aberconwy
  • Dwyrain Clwyd
  • Gogledd Clwyd
  • Dwyfor Meirionydd.

Mae’r etholaethau newydd hyn yn disodli’r hen rai, sef De Clwyd, Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd.

Ceir ychwaneg o wybodaeth a mapiau o’r etholaethau dan sylw ar wefan y Comisiwn Ffiniau (gwefan allanol).

Pwy sy’n sefyll yn yr etholiad?

Cyhoeddir manylion yr ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad cyffredinol wedi i’r terfyn amser ar gyfer enwebiadau fynd heibio ar 7 Mehefin 2024. Mae papurau enwebu a chanllawiau i’w cael ar wefan y Comisiwn Etholiadol:

Y Comisiwn Etholiadol: Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr (gwefan allanol)

Sut ydw i’n pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol?

I bleidleisio mewn etholiad cyffredinol, mae’n rhaid i chi fod:

  • wedi cofrestru i bleidleisio 
  • yn ddeunaw oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad (‘diwrnod pleidleisio’)
  • yn ddinesydd o Brydain, Iwerddon neu genedl gymwys yn y Gymanwlad
  • yn byw mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol neu’n byw dramor ac wedi cofrestru fel pleidleisiwr dramor
  • heb eich gwahardd yn gyfreithiol rhag pleidleisio

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio, gwneud cais am bleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy (yn cynnwys gwybodaeth am ID Pleidleiswyr) ar gael ar dudalen sut i bleidleisio.

Dyddiadau Pwysig

Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw dydd Mawrth, 18 Mehefin 2024

Cofrestru i bleidleisio (gwefan allanol)

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post yw 5pm ar ddydd Mercher, 19 Mehefin 2024.

Cofrestru i bleidleisio drwy'r post (gwefan allanol)

Y dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr yw 5pm ar ddydd Mercher 26 Mehefin 2024.

Cyflwynwch gais am ddull adnabod â llun i bleidleisio (a elwir yn 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr') (gwefan allanol)

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar ddydd Mercher, 26 Mehefin 2024.

Cofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy (gwefan allanol)

Ynglŷn ag ID Pleidleisiwr

Mae’n rhaid i bleidleiswyr dangos prawf adnabod ȃ llun er mwyn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen ID Pleidleisiwr.

Rheolau ymdrin â phleidleisiau post

  • Bydd eich pleidlais drwy’r post yn cael ei gwrthod os na chaiff ei dychwelyd yn y modd cywir.
  • Y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus i chi ddychwelyd eich pleidlais drwy’r post yw trwy ei phostio yn un o flychau postio’r Post Brenhinol, gan ddefnyddio’r amlen barod a ddarperir (amlen B).
  • Cofiwch adael digon o amser i’ch pleidlais drwy’r post ein cyrraedd ni. Mae’n rhaid iddynt gyrraedd y Swyddog Canlyniadau Lleol cyn 10pm ar ddiwrnod y bleidlais.
  • Os ydych chi’n dychwelyd eich pleidlais bost â llaw, er enghraifft i orsaf bleidleisio neu’r cyfeiriad a ddarperir (ar amlen B), mae angen i chi lenwi ffurflen yn awr. Bydd ein staff yn eich helpu chi gyda hyn.
  • Gallwch ddychwelyd eich pleidlais bost eich hun a hyd at 5 o rai eraill fesul etholiad (cyfanswm o 6). 
  • Os ydych chi’n ymgyrchydd gwleidyddol, dim ond eich pleidlais bost eich hun y gallwch ei dychwelyd, a phleidleisiau post unrhyw berthnasau agos neu unigolyn rydych chi’n gofalu amdanynt yn rheolaidd. 
  • Pediwch â gadael eich pleidlais bost ym mlwch post unrhyw un o swyddfeydd y Cyngor.

Gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr

Mae arweiniad ac adnoddau helaeth i ymgeiswyr ac asiantwyr ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol:

Y Comisiwn Etholiadol: Canllawiau - ymgeisydd neu asiant (gwefan allanol)

Mae hyn yn cynnwys:

  • yr hyn sydd arnoch angen ei wybod cyn sefyll mewn etholiad
  • gwariant yr ymgeiswyr
  • ymgyrchu 
  • enwebiadau
  • pleidleisiau post
  • diwrnod pleidleisio
  • dilysu a chyfrif
  • ar ôl yr etholiad

Amserlen digwyddiadau allweddol

  • Hysbysiad o etholiad: dydd Gwener, 31 Mai 2024
  • Dosbarthu papurau enwebu: dydd Llun, 3 Mehefin i ddydd Gwener, 7 Mehefin 2024 (rhwng 10am a 4pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer tynnu enwebiad yn ôl: dydd Gwener 7 Mehefin 2024 (erbyn 4pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer penodi asiantiaid etholiadol: dydd Gwener, 7 Mehefin 2024 (erbyn 4pm)
  • Datganiad am y Sawl a Enwebwyd: dydd Gwener, 7 Mehefin 2024 (erbyn 5pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru: dydd Mawrth, 18 Mehefin 2024
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn neu addasu ceisiadau pleidlais drwy'r post: dydd Mercher, 19 Mehefin 2024 (erbyn 5pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr: dydd Mercher, 26 Mehefin 2024 (erbyn 5pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau dirprwy: dydd Mercher, 26 Mehefin 2024 (erbyn 5pm)
  • Diwrnod y Bleidlais: dydd Iau, 4 Gorffennaf 2024
  • Proses Wirio a Chyfrif Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: dechrau am 10pm dydd Iau, 4 Gorffennaf 2024

Canlyniadau etholiadau - 12 Rhagfyr 2019

Dyffryn Clwyd

Gweld canlyniadau etholiadau ar gyfer Dyffryn Clwyd

Etholaeth Gorllewin Clwyd

Gweld canlyniadau etholiadau ar gyfer Gorllewin Clwyd (gwefan allanol)

De Clwyd

Gweld canlyniadau etholiadau ar gyfer De Clwyd (gwefan allanol)