Cynllun Ymdrin â Thai Gwag
Rydym yn gweithio i tuag at ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto.
Rydym yn canolbwyntio ar gartrefi gwag tymor hir sydd wedi bod yn wag am fwy na 6 mis. Byddwn yn gweithio gydag eiddo lle nad oes cynllun ymarferol i’w defnyddio unwaith eto.
Fel rhan o'r cynllun cartrefi gwag ar gyfer Sir Ddinbych, ein hamcanion yw:
- defnyddio gymaint o gartrefi gwag a phosibl unwaith eto
- gwella cyflwr yr adeiladau sydd gennym yn barod cyn adeiladu rhai newydd
- defnyddio cartrefi gwag ar gyfer tai fforddiadwy
- adennill dyledion sydd ar berchnogion tai gwag i'r cyngor
Bydd taclo cartrefi gwag Sir Ddinbych yn cael effaith gadarnhaol oherwydd:
- gellid defnyddio cartrefi gwag i ddarparu tai fforddiadwy y mae angen mawr amdanynt
- gall cartrefi gwag ddifetha stryd, a thanseilio hyder y gymuned yn yr ardal
- mae cartrefi gwag yn costio hyd at £ 8, o00 y flwyddyn i’w perchnogion mewn treth y cyngor, cynnal a chadw a cholli rhent, felly bydd eu defnyddio eto yn arbed arian i'r perchnogion
- mae delio â chwynion a chael ein galw allan i gartrefi gwag yn costio miloedd i ni bob blwyddyn, felly bydd eu defnyddio eto yn arbed arian i'r cyngor
- mae’n fwy cynaliadwy i’r amgylchedd os ydym yn defnyddio’r hyn sydd gennym cyn adeiladu cartrefi newydd
Gallwch ddarllen y cynllun yn llawn am fwy o fanylion am beth rydym yn ei wneud.
Cynllun ymdrin â thai gwag (PDF, 3.56MB)