Heneiddio'n Dda yn Sir Ddinbych
Mae grŵp Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych, yn rhwydwaith aml asiantaeth hir-sefydlog sydd yn cynrychioli sefydliadau ac unigolion o bob sector sydd yn dod at ei gilydd bob chwarter gyda nod a rennir o wella profiad pobl hŷn yn Sir Ddinbych, a chymryd dull cydweithredol sydd yn pontio’r cenedlaethau. Mae aelodau yn cynnwys unigolion hŷn a chynrychiolwyr o’r sector statudol a sector gwirfoddol.
Mae gennym ni Gynllun Heneiddio’n Dda sydd wedi cael ei ystyried ochr yn ochr â Chynllun Corfforaethol y Cyngor Sir (sydd hefyd yn gwasanaethu fel ein Cynllun Lles a’n Cynllun Cyfartaledd). Un o themâu ein Cynllun Corfforaethol yw hyrwyddo diogelwch, gwytnwch a lles pobl o bob oedran, gan ddefnyddio rhwydweithiau cymunedol cryf sy’n galluogi pobl i fyw’n ddiogel, hapus, annibynnol a derbyn cymorth lle bo’r angen, gan greu ‘Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalus’.
Rydym ni hefyd wedi alinio â chanlyniadau lles yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (gwefan allanol) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (gwefan allanol), yn ogystal â Strategaeth Pobl Hŷn yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru (gwefan allanol) ac yn bwysicaf, Cynllun Gweithredu Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (gwefan allanol), “gweithredu i amddiffyn hawliau pobl hŷn, rhoi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, rhoi diwedd ar gam-drin pobl hŷn a galluogi pawb i heneiddio’n dda.”
Rydym ni wrthi’n ailwampio ein Cynllun Heneiddio’n Dda i gyd-fynd â chofrestriad sin Sir ar gyfer Fframwaith ‘Dinasoedd sy’n Gyfeillgar i Oedran’ Sefydliad Iechyd y Byd’ (gwefan allanol). Rydym ni’n gweithio tuag at y cofrestriad hwn gyda’n partneriaid Age Connects a holl aelodau grŵp Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych.
Mae yna wyth maes o fewn y cofrestriad, ac mae pob un ohonynt yn agweddau o fywyd cymunedol sydd angen eu hystyried. Mae’r wyth maes yn cysylltu â’i gilydd ond gellir eu hystyried fel dau brif sffêr sydd yn ymdrin â’r amgylchedd cymdeithasol a’r amgylchedd adeiledig:
- Gofod tu allan ac adeiladau
- Cludiant
- Tai
- Cyfranogiad cymdeithasol
- Parch a chynhwysiant cymdeithasol
- Cyfranogiad dinesig a chyflogaeth
- Cyfathrebu a gwybodaeth
- Cefnogaeth gymunedol a gwasanaethau iechyd
Pan fydd ein cynllun wedi cael ei gwblhau, bydd yn cael ei gyhoeddi ar y dudalen hon ar y wefan.
Dathlu Oedran: Heneiddio'n Dda yn Sir Ddinbych
Rydym ni’n cefnogi dathliadau i bobl hŷn yn Sir Ddinbych, gan hyrwyddo gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnal ar 1 Hydref bob blwyddyn, sef Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn.
I ddysgu mwy am Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych, cysylltwch: